Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi amddiffyn Eluned Morgan, wrth i’r pwysau arni gynyddu yn sgil cael ei gwahardd rhag gyrru.

Daw hyn ar ôl i’r BBC ddatgelu bod Comisiynydd Safonau’r Senedd wedi dweud bod yr Ysgrifennydd Iechyd wedi dangos “diffyg parch i’r gyfraith” ac wedi torri cod ymddygiad y Senedd.

Plediodd Eluned Morgan yn euog yn Llys Ynadon yr Wyddgrug i gyhuddiad o oryrru ar Fawrth 17, a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis.

Dyma’r pedwerydd tro iddi dorri’r gyfraith drwy oryrru.

“Nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf yn falch ohono ac rwy’n ymddiheuro’n ddiamod,” meddai ar y pryd.

‘Arwain drwy esiampl’

Wrth gyfeirio at alwadau Llafur Cymru am ymddiswyddiad Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn sgil yr hyn sy’n cael ei alw’n Partygate – sef y gyfres o bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnodau clo – dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod “Llafur yn glir y dylai gwleidyddion sy’n torri’r gyfraith roi’r gorau iddi – oni bai wrth gwrs eu bod yn Weinidogion Llafur yng Nghymru”.

“Mae’r Farwnes Morgan wedi dweud y dylai gwleidyddion arwain drwy esiampl ond wedi methu â gwneud hynny ei hun,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n rhaid caniatáu nawr i’r Comisiynydd Safonau a’r pwyllgor safonau gwblhau eu gwaith ar y mater hwn.”

Y mater “ar gau”

Fodd bynnag, yn ôl Mark Drakeford, does dim “cyfatebiaeth foesol” rhwng sefyllfa Boris Johnson â gwaharddiad Eluned Morgan rhag gyrru.

“Y prif weinidog [Boris Johnson] oedd wedi gwneud y deddfau yr aeth ymlaen i’w torri, gan wadu iddo eu torri, gan ysgogi ymchwiliad heddlu hir a drudfawr i ddatgelu’r ffaith ei fod wedi eu torri,” meddai wrth raglen BBC Wales Today.

“Fe gyfaddefodd hi (Eluned Morgan), ar unwaith.

“Mae’r llysoedd wedi delio â hi.

“Rwyf wedi delio gyda’r mater o dan y cod gweinidogol ac mae ar gau.”

‘Cwestiynau difrifol’

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn awyddus i weld Eluned Morgan yn cyfeirio’i hun ar gyfer ymchwiliad o dan y cod gweinidogol.

“Er ein bod yn bryderus ac yn ofidus iawn fod yr adroddiad wedi cyrraedd y parth cyhoeddus cyn i’r broses ymchwilio ddod i ben, byddai sylwadau’r Comisiynydd Safonau, pe baent yn cael eu cadarnhau yn rhai cywir, yn codi rhai cwestiynau difrifol am farn Eluned Morgan,” meddai llefarydd.

“Y ffordd orau ymlaen, o dan yr amgylchiadau hyn, fyddai i Eluned Morgan gyfeirio’i hun ar gyfer ymchwiliad o dan y cod gweinidogol.”

Pan ofynnodd golwg360 i Lywodraeth Cymru am ymateb, dywedodd llefarydd nad oedden nhw am wneud sylw ar adroddiadau sydd heb eu cyhoeddi.