Fwy na blwyddyn ers galw am Fil Iaith Arwyddion Prydain i Gymru, mae Mark Isherwood yn galw o’r newydd am ddeddfwriaeth yn ystod y tymor hwn yn y Senedd.

Mewn cynnig fis Chwefror y llynedd, galwodd yr Aelod Ceidwadol dros ogledd Cymru ar y Senedd i nodi “cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n sicrhau darpariaeth i annog y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn Iaith Arwyddion Prydain”.

Cafodd y cynnig ei dderbyn gan 37 aelod, gyda 15 yn atal eu pleidlais, ond wnaeth neb wrthwynebu.

Gan fod cefnogaeth i’r cynnig o bob plaid yn y Senedd, mae Mark Isherwood yn awyddus i fwrw iddi, a phan gafodd y mater ei drafod yn y Senedd yr wythnos hon, fe alwodd ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r Bil yn ystod y Senedd hon, gan nodi na fu ei geisiadau am Fil Aelod Preifat wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn.

“Nododd fy nghynnig y byddai’r Bil rwy’n ei gynnig yn ‘sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobol sydd wedi colli’u clyw lais wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau i sicrhau eu bod nhw’n diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau’,” meddai.

“Mae degau o bobol Fyddar a grwpiau wedi’u harwain gan bobol Fyddar wedi cysylltu â mi’n gefnogol i hyn, gan ddweud wrthyf, er bod Llywodraeth Cymru’n datblygu Siarter Iaith Arwyddion Prydain newydd i Gymru, fod y Bil arfaethedig gennyf yn gam enfawr ymlaen.

“Dim ond un person ysgrifennodd yn gwrthwynebu.

“Roeddwn wrth fy modd, felly, o glywed Rosie Cooper, yr Aelod Seneddol Llafur, yn cael ei chyfweld ar y radio y llynedd am ei Bil Iaith Arwyddion Prydain yn Senedd y Deyrnas Unedig, wedi’i gyd-noddi gan yr Arglwydd Ceidwadol Holmes o Richmond.

“Yn dilyn ei ddarlleniad cyntaf ar Fehefin 16, 2021, cafodd y Bil Iaith Arwyddion Prydain, i roi statws cyfreithiol llawn i BSL a mynediad at wasanaethau a gwybodaeth hanfodol i bobol Fyddar yn eu hiaith gyntaf, Ail Ddarlleniad heb wrthwynebiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ionawr 28, ar ôl sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe gafodd ei basio ar ôl ei Drydydd Darlleniad ar Fawrth 18.”

Ystadegau

Yn ôl Mark Isherwood, fu’n dyfynnu arolwg annibynnol a gafodd ei gynnal yn 2020, mae oddeutu 7,500 o bobol yng Nghymru’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, gan gynnwys 4,000 o bobol sy’n F/fyddar.

Mae 151,000 o bobol, gan gynnwys 87,000 o bobol fyddar sydd â’r Iaith Arwyddion fel eu dewis iaith, yn defnyddio’r iaith arwyddion yn y Deyrnas Unedig.

Er bod y Bil yn cynnwys dyletswydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i baratoi a chyhoeddi adroddiadau yn Iaith Arwyddion Prydain yn amlinellu’r gwaith er mwyn hyrwyddo’r iaith i’r cyhoedd, mae’r Bil yn eithrio adrodd ar faterion datganoledig i Gymru a’r Alban.

Dydy’r Bil, felly, ddim yn gosod gorfodaeth ar y gwledydd datganoledig i’w ddilyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig Mark Isherwood ar Fawrth 11, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Cymdeithas Fyddar Prydain a swyddogion y Llywodraeth yn trafod eu canfyddiadau ac yn rhoi ystyriaeth i ddeddfwriaeth Gymreig a fydd yn rhan o’r trafodaethau hyn.

Yn ôl Mark Isherwood, mae Cymdeithas Fyddar Prydain yn dweud eu bod nhw’n “cydweithio’n galed” â Llywodraeth Cymru a’u hadrannau, yn ogystal ag aelodau o’r gymuned Fyddar yng Nghymru.

Dywed y Gymdeithas fod Llywodraeth Cymru “wedi gwneud rhai sylwadau” ar yr adroddiad drafft terfynol, ac y byddan nhw’n ailgyflwyno’r adroddiad terfynol yn fuan.

“Rydym yn credu’n gryf fod Cymuned Fyddar Cymru eisiau Deddf BSL (Cymru),” meddai’r Gymdeithas, gan ychwanegu eu bod nhw’n awyddus i barhau i gydweithio er mwyn sicrhau y daw’r ddeddfwriaeth yn y pen draw.

“Sarhaus ac annheg” nad oes gan Iaith Arwyddo Prydain statws cyfreithiol

Cadi Dafydd

“Ar hyn o bryd, mae hi’n anodd iawn i bobol fyddar gael mynediad at wasanaethau iechyd a ballu, mewn iaith sydd yn naturiol iddyn nhw”