Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw am ddisodli’r system bleidleisio cyntaf i’r felin gyda system Cynrychiolaeth Gyfrannol.

Daw hyn ar drothwy’r etholiadau lleol ar Fai 5.

Wrth siarad â golwg360, dywed Jane Dodds fod nifer o bleidleiswyr yn teimlo nad yw eu pleidlais yn cyfrif o dan y system bresennol.

O dan y cyntaf i’r felin, caiff person ei ethol am ei fod yn cael mwy o bleidleisiau nag unrhyw un arall yn yr ardal maen nhw am ei chynrychioli.

Pe bai Cynrychiolaeth Gyfrannol yn cael ei mabwysiadu, byddai nifer y seddi mae pleidiau yn eu hennill yn gymesur â nifer y pleidleisiau maen nhw’n eu derbyn.

‘Mae’n rhaid i ni gael newid’

“Mae angen system bleidleisio newydd – Cynrychiolaeth Gyfrannol – sy’n sicrhau bod pob plaid a phob pleidlais yn cyfrif,” meddai Jane Dodds wrth golwg360.

“Oherwydd yr hyn rydyn ni’n ei weld mewn llefydd mae Llafur yn ennill bob amser, neu lle mae’r Ceidwadwyr yn ennill bob amser, ydi pobol yn dweud, ‘Does dim ots (am fy mhleidlais), dydy fy mhlaid i ddim yn gwneud gwahaniaeth’.

“Felly mae hi’n bwysig iawn ein bod ni’n sicrhau bod pob plaid yn gallu gwneud gwahaniaeth.

“Rydyn ni, fel plaid, wedi bod yn ymgyrchu am newid i’r system ers blynyddoedd ac rydyn ni’n clywed gan bobol eu bod nhw ddim yn licio’r system sydd gennym ni rŵan, sef First Past The Post.

“Mae’n rhaid i ni gael newid.

“Dw i’n gobeithio hefyd y bydd newid yn rhoi cyfle i bleidiau bychan fel ein plaid ni a rhai eraill i gael mwy o ddylanwad a gwneud gwahaniaeth.

“Fel dw i’n dweud, mae pobol wedi cael digon ar Lafur a’r Ceidwadwyr yn ennill ym mhob man a theimlo bod eu pleidlais ddim yn cyfrif.”

Y system “wedi torri”

Mae system y cyntaf i’r felin wedi cael ei beio am nifer y cynghorwyr sy’n sefyll heb wrthwynebiad yng Nghymru yn yr etholiadau lleol.

Mae naw o’r 22 o gynghorau sir yng Nghymru yn gweld rhai o’u cynghorwyr yn cael eu hethol heb orfod sefyll etholiad.

Ac ar draws Cymru, bydd 74 o gynghorwyr yn cael eu dewis heb orfod wynebu etholiad.

“I dros 100,000 o bleidleiswyr yn etholiadau Cymru, mae etholiadau mis Mai wedi cael eu canslo i bob pwrpas,” meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yng Nghymru.

“Etholiadau lleol yw sylfaen ein democratiaeth – cyfle i bobol leol ddweud eu dweud ynghylch sut mae eu hardal leol yn cael ei rhedeg ac, yn bwysig, dros bwy sy’n eu cynrychioli.

“Ond eto, gwrthodir llais i filoedd o bleidleiswyr gyda’r canlyniadau yn cael eu penderfynu wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.

“Mae seddi heb wrthwynebiad yn symptom arall eto o’n system ‘cyntaf i’r felin’ sydd wedi torri – un sy’n creu seddi diogel i rai ymgeiswyr a phleidiau.”