Mae cynnydd yn nifer yr athrawon sy’n cael eu recriwtio yng Nghymru yn debygol o leihau heriau o fewn y gweithlu addysg dros y ddwy flynedd nesaf, yn ôl adroddiad newydd.

Dywed adroddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysg ar Farchnad Lafur Athrawon Cymru fod y pandemig a’r dirwasgiad sydd ynghlwm â’r pandemig wedi golygu bod mwy o athrawon yn cael eu recriwtio a mwy o athrawon yn aros yn y maes.

Cynyddodd nifer yr ymgeiswyr a gafodd eu derbyn ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon cynradd dros 30% rhwng 2019/20 a 2020/21.

Bu cynnydd o 60% yn yr ymgeiswyr ar gyfer cyrsiau uwchradd.

Mae’r adroddiad yn canfod fod llai o athrawon wedi gadael y maes addysg yn 2020 yn sgil yr ansicrwydd a gafodd ei achosi gan y pandemig.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn Lloegr am ystadegau 2022 yn awgrymu na fydd y tueddiadau hyn yn parhau. Gallai fod yn anoddach i gadw a recriwtio athrawon ar ôl 2022, meddai.

Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysg, dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar wella atyniad dysgu, gan dargedu’r pynciau a’r ardaloedd sydd angen y gefnogaeth fwyaf.

‘Argyfwng’ yn parhau

Fodd bynnag, wrth ymateb i ganfyddiadau’r ymchwil, dywed cyfarwyddwr undeb arweinwyr athrawon NAHT Cymru nad oes lle i orffwys ar ein rhwyfau.

“Rydyn ni’n dweud yn glir iawn nad yw problemau recriwtio a chadw athrawon wedi diflannu yng Nghymru,” meddai Laura Doel.

“Mae’r ansicrwydd gafodd ei achosi gan y pandemig wedi golygu bod pobol wedi bod yn aros lle maen nhw, mae’n debyg.

“Mae hi dal yn wir, fel y dangosa’r adroddiad hwn, bod athrawon sydd ar ddechrau eu gyrfa’n fwy tebygol o adael, ac mae ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig yn parhau i weld cyfraddau uwch o bobol yn gadael y maes – eto, rhywbeth mae’r adroddiad yn ei gadarnhau.

“Yr unig ffordd y gellir mynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw athrawon yw drwy gytundeb tâl teg. Yn y pedair blynedd ers i dâl gael ei ddatganoli, ac ers i Gorff Annibynnol Adolygu Tâl Cymru gael ei sefydlu, mae cyflogau arweinwyr ysgolion ac athrawon wedi dioddef.

“Mae gan Lywodraeth Cymru ddewis clir i’w wneud. Fel nifer o weithwyr eraill y sector gyhoeddus, mae athrawon ac arweinwyr ysgolion wedi wynebu blynyddol o gyni a safonau byw gwaethygol. Mae effaith blynyddoedd o doriadau i gyflog gwirioneddol nawr yn cael eu gwaethygu gan y cynnydd sydyn mewn costau byw.

“Bydd cyhoeddiad buan Llywodraeth Cymru ar gyflogau arweinwyr ysgolion yn hanfodol i warchod y proffesiwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rhaid i gynnydd mewn cyfraddau ceisiadau a chadw staff beidio â chuddio’r sefyllfa go iawn. Dw i’n annog y Llywodraeth i eistedd fyny, cymryd sylw a chynnig cytundeb cyflog i’n haelodau sy’n adlewyrchu gwerth yr hyn maen nhw’n gynnig.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Er ein bod yn croesawu’r ffigurau diweddar sy’n dangos bod ffigurau recriwtio athrawon yn parhau i gynyddu, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid ac yn cymryd camau i ddenu mwy o athrawon i’r proffesiwn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ers datganoli tâl ac amodau athrawon yn 2018, rydyn ni wedi helpu i sicrhau cynnydd o 15.9% i gyflogau cychwynnol athrawon.

“Bydd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn cyflwyno ei argymhellion ar gyflog ac amodau athrawon yn fuan.”