Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi enwau’r rheini sydd wedi’u gwahodd i fod yn Llywyddion Anrhydeddus yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf.
Mae’r pump yn adnabyddus i bobol yr ardal, ac wedi’u gwahodd oherwydd eu cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a’r Gymraeg yn lleol.
Y pump yw Gwilym H Griffith, Ken Hughes, Carys Jones, Esyllt Maelor a Rhian Parry.
Gwilym H Griffith
Adroddwr a chynhyrchydd drama o Lwyndyrys sy’n cael ei adnabod ar draws gwlad fel Gwilym Plas yw Gwilym H Griffith.
Treuliodd ei oes yn ffermio ym Mhlas Newydd yng Ngharnguwch, a hyfforddodd – gyda Jean ei wraig – sawl cenhedlaeth o lefarwyr.
Dau uchafbwynt nodedig yn ei hanes oedd trefnu taith yn cyflwyno drama Wil Sam ym Mhatagonia a derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn 2005.
Ken Hughes
Bu Ken Hughes yn bennaeth ar Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog am dros ugain mlynedd gan greu profiadau eang i’r disgyblon, gyda’n hiaith a’n diwylliant yn rhedeg drwy bopeth.
Mae’n parhau’n weithgar ym myd y Pethe, gan arwain y tîm lleol yng Ngŵyl Gerdd Dant 2016, cyfarwyddo sioe blant i’r Urdd, ynghyd â chefnogi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Cafodd Cymru gyfan gyfle i ddod i’w adnabod, diolch i raglen ddogfen, Ken Hughes yn Cadw ni Fynd, ei ddyddiadur fideo yn ystod y cyfnod clo.
Carys Jones
Sefydlodd Carys Jones Aelwyd yn Chwilog ar y cyd â Pat Jones a chawson nhw flynyddoedd o lwyddiant yn troedio Eisteddfodau, boed yn gôr, barti neu unawdau.
Cerdd Dant yw maes Carys Jones, ac mae wedi arwain sawl parti hefyd, megis Parti y Lôn Goed, a Chwiban, a chafodd bleser yn croesawu plant yr ardal i’w chartref dros y blynyddoedd am wersi canu.
Derbyniodd Dlws Coffa John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y Bala yn 2014 am ei chyfraniad i’w hardal.
Esyllt Maelor
Daeth Esyllt Maelor i fyw o Harlech i Abersoch ac mae’n un o ‘genod Rabar’.
Bu’n ddisgybl yn Ysgol Abersoch, Sarn Bach a Botwnnog.
Bu’n gweithio ar brosiectau amrywiol ym myd addysg a gwneud gwaith ymgynghorol, ond doedd dim yn rhoi mwy o bleser iddi na chydweithio gyda phlant a phobol ifanc.
Mae ei dyled yn enfawr i’w chyn-ddisgyblion am ei sbarduno a’i hysbrydoli ac am ddangos pa mor bwysig yw geiriau.
Mae’n credu fod yna sgwennwr ymhob plentyn ac mae’n ymfalchïo yn llwyddiannau ei chyn-ddisgyblion sydd wedi dal ati i sgwennu a chyfrannu i’w cymunedau.
Rhian Parry
Yn un o leisiau amlycaf y byd llefaru yng Nghymru, mae Rhian Parry yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod a’r Pethe yn lleol a chenedlaethol.
Mae’n hyfforddi unigolion a phartïon llefaru, ac fe sefydlodd gôr llefaru Genod Llŷn, sy’n cystadlu’n rheolaidd ers bron i ugain mlynedd.
Mae’n feirniad cenedlaethol, yn arweinydd llwyfan profiadol yn y Pafiliwn, ac yn gyn-enillydd Gwobr Llwyd o’r Bryn a Gwobr Goffa’r Fonesig Ruth Herbert Lewis ar lwyfan y Brifwyl.
‘Mae’n bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allwedol’
“Mae’n bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro’r Eisteddfod,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Dyma bobol sy’n gweithio’n ddiflino drwy’r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio.
“Heb y bobl yma, byddai’r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant.
“Rydyn ni’n diolch iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad, eu gwaith, eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd dros y blynyddoedd.
“Edrychwn ymlaen at gydweithio dros y flwyddyn nesaf wrth i’r Eisteddfod agosáu.”
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan rhwng Awst 5 a 12 y flwyddyn nesaf.
Am ragor o fanylion ewch i’r wefan, www.eisteddfod.cymru.