Heno (dydd Iau, Mehefin 23) cafodd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Rhiannon, Tregaron.

Caiff y Goron ei rhoi eleni gan Fridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen, a chafodd ei chynllunio a’i chynhyrchu gan yr artist Richard Molineux.

Caiff ei chyflwyno am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y testun ‘Gwres’.

Yn ogystal â chyflwyno’r Goron ei hun, mae’r wobr ariannol o £750 hefyd yn cael ei rhoi gan Ifor a Myfanwy Lloyd o’r Fridfa.

Y beirniaid eleni yw Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams.

Y Goron

Mae’r Goron yn ddathliad o ddiwylliant yr ardal a Chymru mewn cyfres o ddeuddeg o ffasedau gwydr lliw o amgylch y pen.

Mae’r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gan ddefnyddio ei ddyluniadau gwreiddiol, paentiodd y crefftwr wydr wedi’i chwythu â cheg yn ofalus gydag ocsidau, ei staenio â staen arian a’i enamlo â ffrit lliw cyn ei danio sawl gwaith yn yr odyn.

Defnyddiodd dechneg ffoil copr a gafodd ei harloesi gan Louis Tiffany ar ddiwedd y 1800au i greu cyfres o ffasedau 3D.

Yna, gosododd y gwydr ar fand pen copr wedi’i wehyddu â llaw, yn debyg i arddull gwehyddu basged, er mwyn cynrychioli basged gynhaeaf, a’r creadigrwydd sy’n cael ei gynaeafu yn yr Eisteddfod.

O fewn y band pen mae cap ffelt coch llachar, wedi’i frodio â chord aur gan yr artist tecstilau Elinor McCue, mewn patrwm clymwaith Celtaidd.

O amgylch y band pen mae’r geiriau ‘Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022’ wedi’u gosod, gyda phob llythyren wedi’i thorri â laser yn unigol o len gopr cyn cael ei enamlo gyda graddio gwyrddlas dau dôn mewn odyn enamlo cyn eu gosod ar y Goron.

Y Gadair

Yn ogystal â’r Goron, mae’r Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heno.

Caiff y Gadair ei rhoi eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y testun ‘Traeth’.

Y beirniaid yw Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys.

Caiff y Gadair ei noddi gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth, a chaiff y wobr ariannol ei rhoi er cof annwyl am Eluned ac W Ambrose Bebb, gan eu plant a’u hwyrion.

Cadair Eisteddfod Ceredigion gan Rees Thomas

“Cefais fy ysbrydoli gan batrymau llif yr Afon Teifi wrth iddi ymdroelli o fryniau Elenydd drwy’r sir ac i’r môr ger Aberteifi,” meddai Rees Thomas, cyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth.

“Yn ogystal â chreu Cadair sy’n cymryd ei lle ar lwyfan ein Prifwyl, ro’n i hefyd yn awyddus i greu dodrefnyn sy’n addas ar gyfer y cartref.”

Bu’n gweithio ar y cynllun gyda’i wraig Mary, a chafodd y ddau gymorth gan un o’i gyn-ddisgyblion, Aled Richards, i blaenio’r pren a thorri’r morteisi.

Mae’r Gadair ei hun wedi’i chreu o goedyn derw.

“Rydw i wedi benthyg y syniad o gynnwys y nod cyfrin ac enw Ceredigion yng Nghoelbren y Beirdd o Gylch yr Orsedd yng Nghastell Aberystwyth,” meddai wedyn.

“Mae’r rhain wedi’u gwneud o bren derw’r gors o Gors Fochno ger Y Borth yng ngogledd y sir.

“Yn ôl arbenigwyr, mae’r gors yn dyddio’n ôl o leiaf pedair mil o flynyddoedd.”

Mae’r barcud coch hefyd yn cael lle amlwg ar gefn y Gadair, ac mae’r ddelwedd yn seiliedig ar baentiad gan ei gyfaill, Wynne Melville Jones.

“Ro’n i am ddathlu llwyddiant ysgubol yr ymgyrch i achub a datblygu’r rhywogaeth, yn arbennig yn yr ardal yng nghanolbarth y sir o amgylch Tregaron, a pherthnasedd yr ymgyrch gadwraeth honno o safbwynt ein brwydr ni heddiw i sicrhau dyfodol ein hiaith,” meddai wedyn.

‘Ill dwy yn hardd ac yn cynrychioli gwahanol elfennau o’n sir’

“Mae hi’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod,” meddai Elin Jones, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

“Cwta fis sydd i fynd tan y byddwn ni i gyd yn dod ynghyd yma yn Nhregaron ar gyfer yr Eisteddfod, ein Heisteddfod ni.

“Ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn mawr obeithio y cawn ni enillwyr haeddiannol yn y ddwy seremoni.

“Ac mae’r Gadair a’r Goron ill dwy yn hardd ac yn cynrychioli gwahanol elfennau o’n sir, ac yn gwbl deilwng o’u lle ar lwyfan ein Pafiliwn eleni.

“Hoffwn felly ddiolch i Richard Molineux am greu’r Goron ac i Ifor a Myfanwy Lloyd o Fridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen am y Goron.

“Ac yr un yw’r diolch hefyd i deulu Eluned ac W Ambrose Bebb, Cylch Cinio Dynion Aberystwyth a Rees Thomas, heb anghofio gwaith Mary Thomas ac Aled Richards hefyd, am y Gadair hyfryd hon.

“Diolch o waelod calon ar ran y Pwyllgor, yr Eisteddfod a phobl Ceredigion.”

Bydd seremoni’r Coroni yn cael ei chynnal ddydd Llun, Awst 1 am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener, Awst 5 am 16.30.