Mewn ffilm ddogfen fer, Hunan Hyder, cawn stori cantores ac artist cerddorol – o’i gyrfa i’w phrofiadau personol – a sut mae perfformio ar lwyfan wedi galluogi iddi brosesu ei thrawma.

Mae Marged, y gantores o Gaerdydd, yn teithio’r byd gyda’r band poblogaidd Self Esteem fel lleisydd a dawnswraig gefndirol.

Mae’r band, fydd yn perfformio yng ngŵyl Glastonbury eleni, yn gydnabyddedig am fwrw golau ar y profiadau heriol rheiny mae merched yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

“Dwi’n berson sy’n caru canu, ac yn caru bod ar y llwyfan” meddai Marged.

“Capel oedd y lle nes i ddechrau dysgu sut i berfformio, sut i ddelio gyda nerfau; mynd o flaen pobol i ganu.”

Does dim amheuaeth bod canu a pherfformio yn y gwaed – mae Marged yn ferch i’r canwr gwerin Delwyn Siôn, ond roedd dylanwadau’r cartref yn fwy eang na cherddoriaeth.

“O’n i wastad â dylanwad a neges yn y tŷ o’r ffaith bod ti’n ymladd am be sy’n iawn, a ti’n symud mewn cariad i wneud e.

“Pan ti mewn adegau o dywyllwch, ti’n creu goleuni dy hunan.”

Golwg amrwd ar effaith diwylliant trais gwrywaidd

Daeth tro ar fyd i Marged yn ei hugeiniau cynnar wedi iddi ddioddef ymosodiad rhyw.

“Mae rhywbeth am fod yn rhywun sydd wedi goroesi trais a pherthynas treisgar, lle mae dewis yn gadael dy fywyd di,” meddai.

“Wnes i dreulio blwyddyn mewn iselder, yn yfed ac yn cymryd cyffuriau, a dwi’n teimlo wnes i atynnu’r egni o’n i ynddo.

“Wnes i ddiweddu mewn perthynas dreisgar oedd wedi para bron i bum mlynedd, ac yn ystod yr amser yna wnes i ddatblygu caethiwed i alcohol a chyffuriau.”

Mae Marged, sydd wrthi’n gweithio ar ei cherddoriaeth newydd ei hun, yn cynnig golwg agored ac amrwd ar yr hyn mae merched o fewn ein cymdeithas yn profi fel canlyniad i ddiwylliant trais gwrywaidd.

“Does dim ots be’ ti’n gwisgo, mae beth sydd ma’s yna dal mynd i fod ma’s yna, a chyfrifoldeb nhw yw hwnna, dim fi.”

Trobwynt

Roedd ymuno â grŵp Self Esteem yn drobwynt a alluogodd i Marged ddod o hyd i’w lle yn y byd, a rhoi’r cyfle iddi ymgryfhau yn dilyn profiadau heriol.

“Mae bod ar y llwyfan yn golygu bo fi’n gallu ailberchnogi fy nghorff bob nos,” meddai.

“Wy’n gallu symud fy nghorff a does neb yn gallu cyffwrdd fi tra bo fi’n wneud e.

“Fi’n teimlo’n hollol saff ar y llwyfan ac mae’n rhoi lle i fi am y tro cyntaf yn fy mywyd i fod yn grac.

“Ni sy’n dewis pryd rydan ni’n symud a pa egni ni’n rhoi mas.”

‘Ysbrydoli eraill i siarad ac ymgryfhau’

Mae’r ffilm wedi’i chyfarwyddo a’i chynhyrchu gan ddwy o ffrindiau Marged – y gantores a’r bardd Casi Wyn a’r ffotograffydd a chyfarwyddwr Carys Huws.

“Nid grŵp pop cyffredin mo Self Esteem; yn wahanol i ran fwyaf o artistiaid y prif-lif, dydyn nhw ddim yn trïo taenu ffug-sglein ar bethau,” meddai Casi Wyn.

“Maen nhw’n real iawn yn eu dulliau o fynegi stori.

“Mae’r ffilm yn paentio rhan fach o siwrne Marged tra’n canfod a siapio ei lle yn y byd.

“Gobeithio bod y ddogfen hefyd yn brawf bod grym golau a gobaith yn gallu goresgyn trawma neu brofiad tywyll.

“Mae Marged yn llwyddo i wneud hynny ar ffurf dawns a chanu fel mynegiant, ac yn dangos bod modd wynebu trais emosiynol neu gorfforol drwy dderbyn a gweithio gyda’n profiadau – yn hytrach na chuddio a chelu oddi wrthynt.

“Bydd stori Marged yn fodd o ysbrydoli eraill i siarad ac ymgryfhau hefyd.”

“Mae Marged wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi o ran sut mae hi’n siarad mewn ffordd mor radical o agored am themâu sydd yn aml yn cael eu fframio fel tabŵ o fewn ein cymdeithas,” meddai Carys Huws.

“Mae gen i barch anferthol ati hi am fod yn agored i rannu ei thrawma personol er mwyn helpu goroeswyr eraill, ac er mwyn help cynrychioli’r realiti mae merched yn ei brofi heddiw.”

Mae’r ffilm ar gael i’w gwylio ar Clic ac Youtube, a bydd yn ymddangos ar S4C nos Fercher (Mehefin 29) am 10yh.