Heno am wyth mi fydd S4C yn dangos rhaglen deyrnged “am wychder” Dyfrig Evans, y cerddor a’r actor amryddawn fu farw yn 43 oed nôl ym mis Mai.

Ar y rhaglen Dyfrig mae Bryn Fôn yn sôn am ddoniau actio Dyfrig Evans.

Bu i’r ddau o Ddyffryn Nantlle actio gyda’i gilydd mewn sawl drama deledu gan gynnwys Talcen Caled, Tipyn o Stad a Stad.

Wnaethon nhw hefyd actio dau frawd mewn sioe glybiau o’r enw Yr Alamo i Theatr Bara Caws.

Fel hyn mae Bryn Fôn yn disgrifio Dyfrig Evans:

“Dyn gwyllt o’r coed un munud, ac wedyn plentyn bach diniwed, amddifad wedyn, eisiau dy help di. Roedd o jesd yn newid.”

Ac mae Bryn Fôn yn cofio’r cyfeillgarwch ar set Talcen Caled, rhwng Dyfrig Evans a’i gyd-actor Stewart Jones:

“Dau o hogiau drwg. Mor debyg i’w gilydd. Tynnu ar ei gilydd. Dweud pethau ofnadwy wrth ei gilydd. Roedd [Dyfrig] yn addoli Stew.”

Ac mae Bryn Fôn yn datgelu bod Dyfrig Evans yn ddyn sâl pan wnaeth o ffilmio’r ddrama Stad y llynedd.

“Roedd y newyddion wedi dod wrth gwrs bod o ddim yn dda,” cofia Bryn Fôn, “a rhywun ddim yn siŵr faint oedd o’n mynd i allu’i wneud.

“Ond roedd o’n benderfynol bod o eisiau bod yn y gyfres.”

Mae Bryn Fôn yn llawn edmygedd o allu Dyfrig Evans i barhau i actio yn Stad, ac yntau o flaen y camerâu a dan gwmwl ei salwch.

“Perfformiad anhygoel… cael ad-libio a dweud pethau off top ei ben, a reit arni o ran beth oedd ei angen ar y pryd.”

Dyma flas o eiriau Bryn Fôn a pherfformiad Dyfrig Evans yn Stad:

Llais Dadi Mochyn

Hefyd ar y rhaglen mae’r actores Catrin Mara yn sôn am allu Dyfrig Evans i droi ei law at leisio rhaglenni plant.

Dyfrig Evans oedd yn lleisio cymeriad ‘Dadi Mochyn’ yn y fersiwn Gymraeg o Peppa Pig i S4C.

“Roedd o’n gallu creu cymeriad heb fawr o ymdrech,” meddai Catrin Mara.

Ac mae actores arall yn talu teyrnged i’w alluoedd.

Bu Fflur Medi Owen yn actio gyda Dyfrig Evans ar y gyfres gomedi Darren Drws Nesa.

“Roedd Dyfs yn gallu gwneud sgript gymharol… yn wych. Ei delifro hi yn wych,” meddai Fflur Medi Owen.

“Fo wnaeth y gyfres yna [Darren Drws Nesa]. Roedd o’n wych.”

Dyfrig y cerddor

Roedd Dyfrig Evans yn ganwr a gitarydd gwych, a daeth i gael ei adnabod fel Dyfrig ‘Topper’ o ganlyniad i boblogrwydd ei fand, Topper.

Wrth gyflwyno’r rhaglen Dyfrig heno, mae Huw Stephens yn sôn am weld Topper yn cefnogi Gorky’s Zygotic Mynci a’r Super Furry Animals yn y 1990au.

“Roeddwn i, fel gymaint o bobl, yn ffan enfawr o Topper,” meddai Huw Stephens.

“Wnaeth [Dyfrig] greu cymaint yn ystod ei fywyd, fel actor, fel cerddor, fel perfformiwr.”

Archif ddifyr

Fel y byddech yn disgwyl, mae yna glipiau difyr o yrfa Dyfrig Evans ar deledu i’w gweld ar y rhaglen heno.

Mae yna glip o’i ymddangosiad cyntaf ar deledu, yn actio fersiwn ifanc o frawd Arthur Picton ar raglen C’Mon Midffîld, mewn flashback o blentyndod y ddau Bicton bach.

Hefyd mae yna glip ohono yn perfformio monolog ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1996, pan enillodd Wobr Richard Burton y flwyddyn honno.

Hefyd mae yna glipiau o Dyfrig Evans yn nyddiau cynnar Rownd a Rownd, a fideos ohono gyda’i fandiau Paladr a Topper.

Dyma golofn gan Manon Steffan Ros, a ymddangosodd yng nghylchgrawn Golwg yn dilyn marwolaeth Dyfrig Evans

Diolch Dyfrig

Manon Steffan Ros

“Tra pery’r gân a’r gair a’r wên glên yn ein meddyliau, mae’r hen fyd yma’n lle gwell, am fod Dyfrig wedi bod yma”