Croeso ichi i gyd i Borthmadog ac i ddalgylch Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. Choeliwch chi ddim teimlad mor braf ydi cael nodi’r dyddiad yna ar ôl oedi am ddwy flynedd!
Ydi, mae’n braf eich gweld chi yma. Mae peryg i’r cyfarwydd fynd yn ddiarth inni wedi’r cyfnodau clo. Mae peryg inni golli’r arfer, colli’r awydd i gymdeithasu. Mi allwn golli gafael – mi ddwedodd Edward Morris Jones wrtha i yn ddiweddar fod rhywun wedi gofyn iddo fo: ‘Wsti Myrddin ap Dafydd, y fo ydi Archfarchnad Cymru o hyd ia?’
Cyhoeddi Eisteddfod 2023 rydan ni ac eleni dan ni wedi gweld yn fwy nag erioed fod y Cyhoeddi wedi rhoi hwb aruthrol i’r pwyllgorau lleol a’r pwyllgorau apêl. Diolch yn arbennig i’r is-bwyllgor Cyhoeddi lleol am yr holl drefniadau ychwanegol a ysgwyddwyd ganddyn nhw. Mae’r Cyhoeddi wedi rhoi awel deg yn yr hwyliau eto. Codi arian yn codi gwên – mae’n brofiad hyfryd! A hyfryd hefyd ydi cyhoeddi ffigyrau diweddaraf Dafydd Rhun, cadeirydd y Gronfa Leol, sef bod dros £201 o filoedd yn y coffrau, dros 50% o’r targed lleol.
Nid un digwyddiad ydi’n diwylliant ni wrth gwrs ac mae’n wych gweld gwyliau Cymreig eraill yn cael eu traed tanynt unwaith eto. Roedd tyrfa sy’n cyfateb i un o bob tri o holl boblogaeth Gwynedd yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon fis diwethaf – yr ŵyl undydd Gymraeg fwyaf yn y byd! Diolch i’r trefnwyr pe bai ond am ein hatgoffa ni mor bwysig ydi parhau i gefnogi cynhyrchwyr lleol a Chymreig.
Yna mi gafwyd Eisteddfod y Canmlwyddiant a Gŵyl Triban – dathliad yr Urdd yn Ninbych. Llongyfarchiadau i’r mudiad ar danio’r flwyddyn arbennig hon gyda’i holl weithgarwch arloesol a chadarn. Yna gorfoledd ‘Yma o Hyd’ a’r gwres cenedlaethol yn Stadiwm Gymraeg Caerdydd gawson ni wrth i dim pêl-droed Cymru ein harwain ni’n urddasol i wneud ein rhan ar lwyfan gwledydd y byd. Ysgubol – ac mi wyddom y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw i gario’r iaith, ein diwylliant a’n hanes – a’n cyfeillgarwch ar draws ffiniau rhyngwladol.
Allwn ni ddim osgoi ochr dduach y flwyddyn hon chwaith. Allwn ni ddim galw ‘Heddwch!’ yn un o ddefodau Gorsedd Cymru a throi cefn ar ryfel a gormes yn y byd. Dydi’r pandemig ddim wedi gwneud yr ymerodraethau mawr yn fwy dynol gwaetha’r modd. Yma yng Nghymru, rydan ni’n dechrau wynebu ein gwir hanes a chydnabod y rhan oedd gan ein stadau, ein plasdai a hyd yn oed ein capeli yn y fasnach gaethwasiaeth. Mae’n dda clywed yr Urdd, Cytûn a Senedd Cymru yn rhoi arweiniad yn y ffordd y dylem groesawu a gofalu am ffoaduriaid, gan ein codi i fod yn Wlad Noddfa. Rydan ninnau yng Ngorsedd Cymru ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ategu hynny’n gryf. Hau hadau rhyfeloedd y dyfodol ydi’r hyn mae llywodraeth Llundain yn ei wneud. Nid gwastraff i’w ail gylchu a’i roi mewn tyllau yn nhrydydd byd Rwanda ydi ffoaduriaid.
Mae sôn am estyn croeso yn dod â ni’n ôl at yr Eisteddfod. Gŵyl Gymraeg mewn ardal Gymraeg fydd hon. Eto mi wyddom nad oes y fath beth â chadarnle i’n diwylliant bellach. Mae’r cyfan dan bwysau. Yr hyn ddaeth yn amlwg yn ystod y pandemig oedd nad ydi’r dwristiaeth sydd gennym yng ngorllewin Cymru ddim yn bosib heb fod lleng o weithwyr allweddol ar gael i gynnal yr ymwelwyr hynny a’r gwasanaethau ar eu cyfer. Heb feddygon lleol, nyrsus, ambiwlans awyr, gwylwyr y glannau, wardeiniaid a gweithwyr llwybrau, timau achub ac fôr ac ar fynydd, heddlu, gweithwyr cyngor, gwasanaeth ailgylchu, heddlu, a phawb arall – allwch chi ddim cynnal diwydiant ymwelwyr. Yn wahanol i’r ymadrodd cyffredin – ‘fedran ni ddim byw Hebddyn nhw’ mi welson ni wirionedd newydd: ‘fedran Nhw ddim dod yma ar eu gwyliau hebddan Ni’. Ni, sy’n cynnwys y gweithwyr allweddol a phawb ohonon Ni sy’n talu trethi i’w cynnal nhw.
Yr unig ffordd y gallwn ni werthfawrogi ein gweithwyr allweddol yw drwy sicrhau fod modd iddyn nhw gael cyflogau call a chartrefi yn y broydd maen nhw’n eu gwasanaethu. Rhaid i dwristiaeth felly, gyfrannu mwy i’r economi leol mae’n ddibynnol arni. Mae treth dwristiaeth i’w chael yn y rhan fwyaf o wledydd ac ardaloedd twristaidd y byd. Dyma’r arian sy’n cynnal gwasanaethau fel canolfannau croeso, cyfleusterau cyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio, traethau baner las, cawodydd traeth, timau diogelwch a gweithwyr hanfodol. Fedran Nhw ddim byw hebddan Ni a gadewch inni roi cyfle iddyn nhw gyfrannu at hynny. Un ffordd o dafoli hyn fyddai bod Llundain yn gostwng y Dreth ar Werth. Mae’r 20% yna ar ben bob dim yn mynd yn syth i Lundain – ac fel y gwyddon ni, does fawr ddim yn dod yn ôl. 15% ydi Treth ar Werth yn Seland Newydd (ein partner masnachol newydd ni); 10% yn y Bahamas; a does na ddim ffasiwn dreth yn Gibraltar na Gurnsey nac Unol Daleithiau America.
Flynyddoedd yn ôl roedd dyn garej yn nalgylch Dyffryn Conwy yn brysur yn llenwi tanciau petrol ymwelwyr haf. Mi sylwodd ar un fusutor yn cyrraedd, yn mynd yn syth at y beipen wynt, yn mynd ati i bwmpio teiar ffrynt ochor dreifar ac wedyn yn ôl i’w sedd heb brynu petrol na phaced o greision na pheth. Roedd o ar fin gyrru oddi yno pan gyrhaeddodd dyn y garej a rhoi cnoc ar y ffenest. Tri gair ddwedodd y dyn busnes lleol: ‘Air costs money’ a phlygu i lawr a gollwng y gwynt a gafwyd allan o’r teiar.
Na, tydi Cymru a’i threftadaeth ddim ar werth – a tydi hi ddim i’w rhannu am ddim chwaith. Pan ddowch chitha yn eich degau o filoedd yma i Lŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesa, cofiwch gefnogi’r economi leol. Mae’n rhaid inni weld ein cymdeithasau lleol yn anadlu ac yn byw; byw wedyn fydd y diwylliant sy’n cynnal y steddfod yma. Cofiwch fod hyn yn wir o hyd: ‘Air Costs Money’.