Mae criw o gerddorion, gan gynnwys lleisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys, wedi rhyddhau cân i godi arian at yr argyfwng bwyd yn Yemen.

Y cynhyrchydd Kris Jenkins o Gaerdydd sy’n gyfrifol am y gân ‘Lloches’ gan Ni, sy’n cynnwys perfformiadau gan Huw Griffiths ac Elin Griffiths o’r band Y Dail hefyd.

Mae’r sengl yn alwad ar bawb i weithredu nawr, a bydd yr arian yn mynd tuag at Islamic Relief, y sefydliad sy’n cydlynu cymorth bwyd hanfodol ar gyfer yr argyfwng diogelwch bwyd mwyaf yn y byd a achosir gan ddyn.

Mae dros bum mlynedd o wrthdaro yng Ngweriniaeth Yemen wedi gadael miliynau o bobol heb gartrefi, yn dioddef ac yn newynu.

Yn ôl Islamic Relief, mae dros ddwy filiwn o blant dan bump yn dioddef o ddiffyg maeth acíwt.. Amcangyfrifir bod dros dri chwarter poblogaeth y wlad angen cymorth dyngarol.

Nod ‘Lloches’ yw codi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa yn Yemen, “tra bod llawer o gyfryngau’r byd yn canolbwyntio ar y rhyfel sy’n datblygu yn Wcráin”.

Gruff Rhys, o’r Super Furry Animals a Neon Neon, sy’n gyfrifol am y geiriau a’r lleisiau ar y trac, a Kris Jenkins wnaeth gyfansoddi’r alaw.

‘Dim dianc’

Cafodd y trac ei recordio gan Kris Jenkins y llynedd fel rhan o brosiect albwm ehangach, ond roedd geiriau’r trac yn teimlo’n ddigon perthnasol i’w rhyddhau nawr, yn enwedig o ystyried ymateb y cyfryngau i’r gwrthdaro yn Wcráin.

“Mae’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin yn ofnadwy, does dim dianc o’r ffaith,” eglura Kris Jenkins.

“Ond mae wedi bod yn digwydd yn Yemen ers blynyddoedd, a phrin y sonnir amdano yma. Mae gen i deulu â threftadaeth Yemeni ac mae gan Gaerdydd gymuned Yemeni ers bron i 200 mlynedd – adeiladwyd y mosg cyntaf yn Butetown ym 1860.

“Serch hynny, nid yw hon yn daith hiraeth o bell ffordd. Mae, heb os, yn ymwneud â’r presennol.”

‘Crafu a chloddio’

Mae Gruff Rhys wedi gweithio gyda Kris Jenkins ers dros 20 mlynedd, ers i Kris Jenkins chwarae offerynnau taro ar gân ‘Northern Lites’ Super Furry Animals yn 1998.

“Mae bob tro’n creu gofod ar gyfer arbrofi,” meddai Gruff Rhys am Kris Jenkins.

“Crafu a chloddio i ffwrdd yn ysgafn i ddatgelu rhywbeth cudd tu fewn i chi. Dyna beth ddigwyddodd gyda ‘Lloches’.

“Yn y diwedd, ysgrifennais a chanu rhywbeth na fyddwn byth wedi’i wneud mewn unrhyw sefyllfa arall.

“Dydw i erioed wedi ynganu’r Gymraeg fel yna o’r blaen – nac wedi cael cyfle i chwarae o gwmpas cymaint – ond fe wnaeth yr awyrgylch a greodd a’r gerddoriaeth ei hun ei dynnu allan ohonof rywsut.”

Edrych yn ôl ar rai senglau elusennol

Nid dyma’r tro cyntaf i gantorion Cymru ryddhau senglau elusennol, wrth gwrs.

Dwylo Dros y Môr, 1985

Rhyddhawyd ‘Dwylo Dros y Môr’ er mwyn codi arian ar gyfer pobol oedd yn newynu yn Ethopia, er mwyn cyd-fynd â record elusen Band Aid, ‘Do They Know It’s Christmas Time’?

Daeth artistiaid fel Huw Chiswell, Geraint Griffiths, Linda Griffiths, Caryl Parry Jones, a Dafydd Iwan ynghyd i recordio’r gân.

Dwylo Dros y Môr, 2020

Dwylo Dros y Môr, 2020

Rhyddhawyd fersiwn newydd o’r gân yn 2020, ac aeth Elin Fflur ac Owain Gruffudd Roberts ati i dynnu dros 30 o artistiaid ynghyd i’w recordio.

Aeth cyfran o’r elw at elusen Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru dan elusen Sefydliad Cymunedol Cymru, er mwyn darparu cefnogaeth i fudiadau oedd yn cynnig cymorth i bobol gafodd eu heffeithio gan Covid-19.

Roedd Mared Williams, Elidyr Glyn, Kizzy Crawford, a Rhys Gwynfor ymysg yr artistiaid ar y trac.

Hawl i Fyw, 2015

Daeth rhai o gerddorion enwocaf Cymru ynghyd i ail-recordio cân Dafydd Iwan yn 2015 er mwyn codi arian at ymgyrch #tîmIrfon ac elusen Awyr Las Gogledd Cymru, sy’n codi arian i helpu cleifion canser yn y gogledd.

Cafodd ymgyrch #HawliFyw ei ysbrydoli gan stori Irfon Williams o Fangor a fu farw yn 2017 o ganser y coluddyn.

Nod yr ymgyrch oedd sicrhau bod y cyffur Cetuximab, sy’n cael ei ddefnyddio i drin canser y coluddyn, ar gael yng Nghymru, ar ôl i Irfon ddewis cael triniaeth yn Lloegr gan nad oedd y cyffur yn cael ei gynnig drwy Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Anfonaf Angel, 2011

Yn 2011, fe wnaeth Bryn Terfel ryddhau fersiwn o Anfonaf angel i nodi pen-blwydd Ambiwlans Awyr Cymru yn ddeg oed, gyda’r elw’n mynd i’r elusen.

Dewch at Eich Gilydd, 2005

Yn 2005, daeth nifer o artistiaid ynghyd i ail-recordio clasur Edward H Dafis gyda’r arian yn mynd at Apêl S4C Asia / Affrica.

Roedd y trac yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid megis Dewi Pws, Ywain Gwynedd, Ryland Teifi, Meic Stevens, Bryn Fôn, a Siân James.

Bydd Wych, 2020

Fe wnaeth aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ryddhau fersiwn o ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor fel sengl elusennol yn 2020, gyda’r arian yn mynd tuag at elusen iechyd meddwl meddwl.org.

Ynghyd â chodi arian, roedd hi’n fwriad i’r sengl ddenu sylw at elusennau iechyd meddwl Cymraeg.

Roedd y gân yn cynnwys aelodau o’r deuddeg ffederasiwn ledled Cymru, a wnaeth gydweithio â’r gantores a’r gyflwynwraig teledu Lisa Angharad a BBC Radio Cymru ar y trac.

  • I roi arian i apêl Yemen ewch i wefan Just Giving.
  • Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar Orffennaf 1.