Mae casgliad o ryseitiau sy’n dod â bwydlen o brydau o bob cwr o’r byd ynghyd i ddathlu cymuned pobol ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol Cymru wedi ennill gwobr fyd-eang.
Mae The Melting Pot gan Maggie Ogunbanwo o Benygroes wedi dod i’r brig yng nghategori ‘mudwyr’ Gwobrau Gourmand World Cookbook.
Gwobrau Gourmand World Cookbook yw cystadlaethau rhyngwladol mwyaf y sector bwyd, gyda 227 o wledydd a rhanbarthau yn cystadlu.
Bwriad y gwobrau, a sefydlwyd gan yr arbenigwr coginio o Sbaen, Edouard Cointreau, yw anrhydeddu’r llyfrau bwyd a gwin gorau, boed wedi’u hargraffu neu’n ddigidol, yn ogystal â rhaglenni teledu am fwyd.
‘O Bali i Zimbabwe’
Syniad Maggie Ogunbanwo, sydd â’i gwreiddiau yn Nigeria ond sydd bellach yn byw yn Nyffryn Nantlle yn rhedeg ei busnes ei hun yn gwerthu sbeisys a sawsiau Affricanaidd, oedd The Melting Pot.
Dywedodd Maggie: “Mae ennill y wobr hon yn golygu bod fy mreuddwyd wedi dod yn wir.
“Alla i ddim credu’r peth, mae ennill yn anrhydedd go iawn, ac mae bod ymhlith y llyfrau coginio gorau yn y byd yn wirioneddol anhygoel.
“Mae’r llyfr yn ddathliad o’r ryseitiau amrywiol a gyfrannwyd gan aelodau o’r gymuned leiafrifol ethnig yng Nghymru.
“Mae’r ryseitiau’n dod â blasau, ysbrydoliaeth a thraddodiadau o Bali i Zimbabwe a’r straeon cyfoethog y tu ôl i bob pryd ynghyd, gan gydnabod bwyd fel iaith gyffredinol y gallwn ni i gyd gyfathrebu a rhannu drwyddi.”
“Hoffwn ddiolch i’r 16 cyfrannwr arall a helpodd fi i feddwl am y ryseitiau gwych hyn, yn ogystal ag Isadran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru am eu ffydd a’u cymorth gyda’r llyfr hwn.
“Ni fyddai wedi bod yn bosibl hebddynt.”
Ymhlith y ryseitiau mae Ffriterau Pysgod Hallt o Jamaica; Kibbeh wedi’u Stwffio o Syria, Reis Jollof Cyw Iâr o Nigeria, Macher Jhol o Fangladesh a Chawl Ajiaco Fegan o Golombia.
‘Gwaith rhagorol’
Lansiwyd y llyfr coginio gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths mewn lansiad rhithwir ym mis Mawrth y llynedd.
Meddai’r Gweinidog: “Llongyfarchiadau mawr i Maggie sy’n parhau i wneud gwaith rhagorol yn arddangos y Gymru gyfoes drwy lygaid y rhai yn y gymuned ddu, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
“Mae The Melting Pot yn atgyfnerthu ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol, ac rwy’n falch iawn bod Maggie wedi cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.”