Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gynnal cystadleuaeth Eurovision 2023 yng Nghymru mewn dadl yn y Senedd heddiw (Mehefin 29).

Mae disgwyl i’r Deyrnas Unedig gynnal y gystadleuaeth flwyddyn nesaf, gan nad yw’n bosib i Wcráin ei chynnal yn sgil ymosodiad Rwsia ar y wlad a chan mai’r Deyrnas Unedig ddaeth yn ail.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, byddai cynnal y digwyddiad yng Nghymru yn rhoi hwb i economi’r wlad ac yn annog pobol i ymweld â gwlad y gân, yn ogystal â chynyddu proffil rhyngwladol Cymru.

Mae’n rhaid i ddinas gwrdd â gofynion o ran capasiti lleoliad posib, ansawdd gwestai, a chyfleusterau er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cynnal Eurovision.

Yn y gorffennol, mae dinasoedd fel Birmingham, Brighton, Caeredin a Harrogate wedi bod yn gartref i’r gystadleuaeth.

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi gwneud yr un alwad, ac yn awyddus i Stadiwm y Principality gael ei hystyried fel lleoliad.

‘Cyfle gwych’

Byddai cynnal Eurovision yn rhoi hwb i’r diwydiant lletygarwch ar ôl cyfyngiadau Covid hefyd, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Er ei bod hi’n drist na all Wcráin gynnal yr Eurovision Song Contest flwyddyn nesaf, mae hwn yn gyfle gwych i Gymru gamu ymlaen a chynnal Eurovision,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y blaid.

“O ystyried yr amgylchiadau sy’n ymwneud ag anallu Wcráin i gynnal y gystadleuaeth, rydyn ni angen sicrhau bod pa bynnag ddinas sy’n cael ei dewis yn anrhydeddu buddugoliaeth Wcráin yn y gystadleuaeth yn 2022 ac yn sicrhau ei fod yn teimlo mor Wcrainaidd â phosib.

“Byddai cynnal y gystadleuaeth yn arwain at fanteision anferth, gan gynnwys hwb economaidd mawr a chynyddu’r ymwybyddiaeth a phroffil ein gwlad.

“Fel gwlad y gân, alla’i ddim meddwl am unlle gwell i gynnal Eurovision – gadewch i ni groesawu’r byd i Gymru.”

Dewch â’r Eurovision i Gymru

Barry Thomas

Angen i Lywodraeth Cymru gael ymgyrch ‘Dewch â’r Eurovision i Gymru’ a defnyddio sêr megis y Stereophonics, Syr Tom Jones a Cerys Matthews i helpu