Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi cyflwyno Cynnig yn San Steffan i longyfarch ysgolhaig o’r sir ar gyhoeddi ei “gampwaith,” sef astudiaeth fanwl o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig.

Cyflwynodd Ben Lake Gynnig Cynnar-yn-y-Dydd ar Fehefin 16 yn llongyfarch y Dr Daniel Huws, cyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol, ar gyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscript and Scribes, c.800 – c.1800 yr wythnos diwethaf.

Mae’r Repertory yn astudiaeth fanwl o lawysgrifau Cymreig o’r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol. Cafodd y tair cyfrol swmpus, sy’n pwyso 5kg gyda’i gilydd, eu cyhoeddi ar y cyd rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Roedd y gwaith i fod i weld golau dydd 18 mis yn ôl, ond bu’n rhaid gohirio oherwydd Covid.

A Repertory of Welsh Manuscript and Scribes gan y Dr Daniel Huws

“Campwaith”

“Mae yna sawl agwedd nodadwy y mae’n bwysig eu bod yn cael sylw swyddogol y Senedd yn San Steffan,” meddai Ben Lake wrth Golwg360.

“Yn bennaf am fod y Dr Huws wedi paratoi campwaith sy’n nodi’r holl lawysgrifau Cymreig mewn un ffynhonnell, sy’n hynod o bwysig o ran cofnodi’n hanes ni fel cenedl.

“Hefyd mae’n gampwaith academaidd sy’n werth ei chanmol o ran y safon ac ystod y gwaith. Mi fydd yn helpu cenedlaethau o haneswyr y dyfodol, sy’n beth hynod o gyffrous i astudiaeth hanes Cymreig yn y dyfodol.

“Dyma benllanw gyrfa academaidd y Dr Huws… Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n deilwng iawn bod y Senedd yn cydnabod hynny. Roedd yn bwysig ei fod yn cael y sylw yma am ei fod gymaint o gampwaith.”

Cafodd Daniel Huws fedal gan Gymdeithas y Cymrodorion am ei gyfraniad ysgolheigaidd yr wythnos yma, ac roedd hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed. Dechreuodd weithio ar y Repertory ar ôl ymddeol o’r Llyfrgell 30 mlynedd yn ôl. Ers rhai blynyddoedd, oherwydd y dirywiad yn ei olwg, bu’r ysgolhaig Gruffudd Antur yn cydweithio gydag e ar y gwaith.

Cyhuddo ysgolheictod Seisnig o “duedd unochrog iawn”

Trwy wneud y Cynnig yn San Steffan, mae Ben Lake yn gobeithio y bydd yn “atgoffa” gwleidyddion San Steffan o “agwedd Gymreig” hanes Ynysoedd Prydain.

“Mae’r bywyd cyhoeddus a’r bywyd academaidd yn Lloegr yn aml yn cael ei gysidro fel y byd academaidd Prydeinig,” meddai.

“Mae’r syniad yma o hanes Prydeinig yn aml iawn yn golygu hanes Lloegr, neu o leiaf agwedd a daliadau Seisnig iawn tuag at hanes a digwyddiadau ar Ynysoedd Prydain.

“Mae cael y cyfle yma i atgoffa pobol bod yna agwedd Gymreig i’n profiadau hanesyddol ni ar yr ynysoedd yma yn rhywbeth pwysig iawn.

“Mae’r Dr Huws yn uchel iawn ei barch ar draws y byd hanesyddol ond mae’n bwysig fod pobol sy’ ddim cweit mor hyddysg yn y materion yma yn cael eu hatgoffa.”

Graddiodd Ben Lake mewn Hanes a Gwleidyddiaeth o Goleg y Drindod, Rhydychen, a thestun ei draethawd hir oedd gwaith Beirdd yr Uchelwyr yng Nghymru.

Dilynodd wedyn radd Meistr mewn Hanes Prydeinig ac Ewropeaidd Modern, gan arbenigo yn y traddodiad canu protest yng Nghymru.

“Mae hanes Prydeinig, neu ‘hanes Ynysoedd Prydain’ fel mae rhai prifysgolion yn Lloegr yn ei ddisgrifio fe, yn fwy na jyst hanes brenhinoedd Lloegr, yn fwy na Shakespeare, yn fwy na’r llawysgrifau gan fynachod o Loegr,” meddai’r gwleidydd o Lanbedr Pont Steffan.

“Mae ein hanes ni yng Nghymru yn rhan annatod o’n profiad o’r ynysoedd yma, ac mae angen iddyn nhw gofio hynny.”

Mae’n gobeithio y bydd y Cynnig “mewn ffordd fach” yn “helpu procio’r cof”.

“Licen i feddwl ei fod yn gorfodi ambell i Aelod Seneddol ac Arglwydd yn San Steffan i ystyried cyfyngder eu dealltwriaeth o hanes ynysoedd Prydain hefyd,” meddai.

“Yn sicr byddai gwaith Dr Huws yn help i nifer o academyddion hyd yn oed ym mhrifysgolion parchus Lloegr, sy’n edrych ar astudiaeth hanes canoloesol Prydain yn benodol.

“Yn aml iawn mae’r ffynonellau yn dod o duedd unochrog iawn. Mae eisie i ni, cyn belled ag sy’n bosib o’r hyn sydd wedi goroesi, ddod â rhywfaint o gydbwysedd i hynny.”

Llongyfarch yn y Bae

Mi wnaeth Llywydd Senedd Cymru hefyd longyfarch Daniel Huws ym Mae Caerdydd ddydd Mercher diwethaf, 22 Mehefin. “Mae’r cyfrolau yma yn gampwaith,” meddai Elin Jones gerbron cyfarfod llawn y Senedd.

“Fe’u hymchwiliwyd, fe’u golygwyd, fe’u hargraffwyd yn bennaf yng Ngheredigion, ond nawr maen nhw’n perthyn i ysgolheictod y byd.”