O sioeau amaethyddol i ddathlu bwyd rhyngwladol ym Mae Caerdydd, mae yna ddigonedd ymlaen penwythnos yma. Dyma ‘Geid golwg360’…


Gŵyl Y Felinheli

Mae gŵyl wyth niwrnod ar lan y Fenai wedi dychwelyd i Felinheli ac mae digonedd ar ôl i’w mwynhau.

Nos Wener: Noson Lawen yng nghwmni Tudur Owen, Eve Goodman, Dylan a Neil a Phil Gas.

Dydd Sadwrn: Y Carnifal gydag adloniant gan Fleur de Lys, Achlysurol, Gwydion, Band Porthaethwy, Bloco Sŵn a llawer mwy.

Gŵyl y Felinheli

Noson Lawen

19:00, 1 Gorffennaf 2022 (£8)
Un o uchafbwyntiau Gŵyl y Felinheli bob blwyddyn, y Noson Lawen! Cofiwch brynu tocyn o flaen llaw.

Carnifal

12:00, 2 Gorffennaf 2022 (Am ddim)
Pen llanw wythnos o weithgareddau Gŵyl y Felinheli yw diwrnod y Carnifal. 12.00: Ymgynnull yn Hen Gei Llechi12.30: Cychwyn yr orymdaith Band Porthaethwy Cystadleuaeth Gwisg Ffansi Bloc o Sŵn Gwydion …

Gŵyl Rhuthun

Bydd yr ŵyl gerddoriaeth boblogaidd yn dychwelyd i Sir Ddinbych am y tro cyntaf ers y pandemig y penwythnos hwn. Bydd Gŵyl Rhuthun yn dod i ben ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2 gyda’i digwyddiad Top Dre. Bydd adloniant byw gan gynnwys artistiaid fel Morgan Elwy, Band Pres Llareggub, Alys Williams a Dafydd Iwan a’r band.

Pryd? 1-8yh ddydd Sadwrn (Gorffennaf 2)

Ble? Sgwâr San Pedr

Gŵyl Rhuthun

13:00, 2 Gorffennaf 2022
Adloniant byw gan gynnwys artistiaid fel Morgan Elwy, Band Pres Llareggub, Alys Williams a Dafydd Iwan a’r band.

Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan

Dyma’r tro cyntaf i’r sioe gael ei chynnal ers cyn Covid ac mae yna gystadlaethau newydd mewn sawl adran. Mae amserlen lawn o ddigwyddiadau’r ddydd i’w weld isod.

Pryd? Dydd Sadwrn (Gorffennaf 2)

Ble? Caeau Pontfaen, Llambed, SA48 7JN

Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan

10:00, 2 Gorffennaf 2022
Mae Pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanbed yn falch cyhoeddi bod y sioe yn cael ei chynnal ar Orffennaf 2il ac yn erfyn am gefnogaeth gan ei bod yn heriol i gael pawb nôl i gystadlu.

Y paratoadau ar droed ar gyfer yr ŵyl ym Mae Caerdydd.

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd

Mae un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr haf y ddinas yn ôl gyda llu o stondinwyr rheolaidd a digonedd o rai newydd, oll yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch lleol a danteithion o bedwar ban byd. Bydd rhaglen lawn o gerddoriaeth hefyd drwy gydol y penwythnos.

Pryd? Dydd Gwener (Gorffennaf 1) – Nos Sul (Gorffennaf 3)

Ble? Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd


Gig lansio albwm Adwaith

Mi fydd Adwaith yn lasio eu hail albwm Bato Maro yng Nghlwb Ifor Bach dros y penwythnos gyda chefnogaeth gan Kim Hon a Gillie. Mae’r triawd o Gaerfyrddin wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn gigio ymhobman gan gynnwys sioe gyda’r Idles yn y Motorpoint yng Nghaerdydd a chwarae’n Glastonbury.

Pryd? Nos Wener (Gorffennaf 1)

Ble? Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd


Gŵyl Car Gwyllt

Bydd Gŵyl Car Gwyllt yn cael ei chynnal dros y penwythnos yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog, gan gychwyn nos fory (nos Wener, Gorffennaf 1) gyda gig gan Gai Toms, Estella, Leri Ann, Mared a Tom Jeffreys a’r Ogs.

Yna dydd Sadwrn bydd llu o berfformwyr gan gynnwys Candelas, Los Blancos, Breichiau Hir, Y Cledrau a Mr Phormula.

Pryd? Nos Wener (Gorffennaf 1) – Nos Sul (Gorffennaf 3)

Ble? Clwb Rygbi Bro Ffestiniog


Am ragor o wybodaeth am rai o’r digwyddiadau, neu os hoffech chi hysbysebu’ch digwyddiad eich hun, ewch draw i Calendr360.