Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Iau, 30 Mehefin) cafodd mam, llystad a bachgen yn ei arddegau eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio’r bachgen 5 oed, Logan Mwangi.
Cafwyd hyd i’w gorff yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf y llynedd.
Fe fydd mam Logan Mwangi, Angharad Williamson, 31, yn treulio o leiaf 28 mlynedd dan glo, tra bod ei phartner John Cole, 40, wedi ei ddedfrydu i isafswm o 29 mlynedd yn y carchar. Mae bachgen, 14 oed, na ellir cyhoeddi ei enw, wedi ei ddedfrydu i o leiaf 15 mlynedd dan glo.
Ym mis Ebrill eleni cafwyd y tri yn euog o lofruddio Logan Mwangi. Roedd John Cole wedi pledio’n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, tra bod Angharad Williamson a’r bachgen hefyd wedi’u cael yn euog o’r un cyhuddiad.
Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Jefford bod yr ymosodiad ar y bachgen yn “arswydus”.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi dod o hyd i gorff Logan o dan y dŵr, tua 250 metr o’i gartref. Bu farw ar ôl ymosodiad “ciaidd” arno yn ei gartref, cyn i’w gorff gael ei roi yn Afon Ogwr. Roedd Angharad Williamson a John Cole wedi ffonio’r heddlu gan honni bod Logan wedi diflannu.