Mae un o grwpiau mwyaf yr Alban wedi dweud bod yna fwy o reswm nag erioed i Gymru frwydro am annibyniaeth.
Daw sylwadau y Proclaimers mewn cyfweliad gyda’r cylchgrawn Golwg heddiw (dydd Iau, 30 Mehefin).
Daeth y Proclaimers yn enwog yn niwedd yr 1980au gyda’u cân ‘I’m Gonna Be (500 Miles)’ ond erbyn heddiw, mae’r deuawd yn arwyr ymhlith cenedlaetholwyr yr Alban, oherwydd eu cefnogaeth i’r ymgyrch dros annibyniaeth.
Un o’u caneuon enwocaf yw ‘Cap in Hand’, sydd â’r geiriau yma yn y gytgan – ‘I can’t understand why we let someone else rule our land’.
“Pe bawn i’n Gymro, mi fyddwn i eisiau annibyniaeth i Gymru,” meddai Craig Reid, prif gyfansoddwr y Proclaimers, wrth gylchgrawn Golwg. “Heb owns o amheuaeth, byddwn.”
Dywedodd fod eisiau i Gymru “weithredu, pleidleisio, ac ymgyrchu,” a bod “yn fudiad torfol torfol cymdeithasol”.
“Mae’n rhaid cynnal y pwysau o hyd, oherwydd mae’r pwysau bob amser yn mynd i ddod o gyfeiriadau eraill – mae o’n dod oddi wrth yr unoliaethwyr, oddi wrth y cenedlaetholwyr Seisnig, sydd eisiau i’r Alban a Chymru ac Iwerddon fod yn eilradd, ac sydd bellach yn agored yn eu dirmyg am yr hyn y maen nhw’n ei alw yn ‘the Celtic fringe’.”
Dywedodd ei frawd Charlie Reid bod yn rhaid i Gymru “ymladd yn ôl”.
“Beth bynnag rydych chi’n ei amddiffyn neu’n ceisio ei ehangu, beth bynnag rydych chi’n ceisio gwella’i gyflwr – mae’n rhaid i chi ymladd yn ôl,” meddai.
“Os na wnewch chi, rydych chi’n mynd i gael eich gwasgu gan y bobol yma… Dw i’n meddwl bod yna fwy o reswm nag erioed i wthio ymlaen.”
Llongyfarch Dafydd Iwan
Mae’r Proclaimers yn ddilynwyr oes o glwb pêl-droed Caeredin, Hibernian FC, ac mae eu cân ‘Sunshine on Leith’ wedi cael ei mabwysiadu fel anthem gan y ffans.
Ond nid yw tîm cenedlaethol yr Alban wedi mabwysiadu un o ganeuon y grŵp. Mae’r ddau yn datgelu yn y cyfweliad eu bod nhw wedi gweld y fideo enwog o Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’ gyda’r miloedd o ffans cyn y gêm Cymru ac Awstria.
“Da iawn fo am wneud beth nad ydan ni wedi gallu ei wneud,” meddai Charlie Reid.
Dywedodd ei frawd, Craig, ei fod yn “ffantastig.”
Datgelodd y ddau mai albwm nesaf y Proclaimers, Dentures Out, ym mis Medi fydd y casgliad “mwyaf gwleidyddol” maen nhw erioed wedi ei wneud, a hynny oherwydd yr hinsawdd wleidyddol bresennol.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon ddydd Llun ei bod hi wedi sgrifennu at y Prif Weinidog Boris Johnson yn gofyn am gael cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, gan awgrymu 19 Hydref 2023 fel dyddiad. Fe fydd gorymdaith YesCymru/All Under One Banner yn digwydd yn Wrecsam ddydd Sadwrn yma, 2 Gorffennaf, yn dechrau o Lwyn Isaf am 12pm.
Darllenwch y cyfweliad yn llawn yn rhifyn Golwg heddiw (30 Mehefin 2022), neu yn ddigidol ar Golwg+