Bydd Gŵyl Car Gwyllt yn dychwelyd i Flaenau Ffestiniog dros y penwythnos gan gychwyn nos Wener (Gorffennaf 1) ar ôl i’r ŵyl gael ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid.
Mae’r ŵyl a gychwynnodd dros 20 mlynedd yn ôl yn cael ei threfnu gan griw o wirfoddolwyr, ac maen nhw’n disgwyl i docynnau werthu allan.
Nos Wener bydd gig gan Gai Toms, Estella, Leri Ann, Mared a Tom Jeffreys a’r Ogs.
Yna dydd Sadwrn bydd llu o berfformwyr gan gynnwys Candelas, Los Blancos, Y Cledrau a Mr Phormula.
Yn anffodus mae Breichiau Hir wedi gorfod tynnu allan ar ôl i aelod brofi’n bositif am Covid.
‘Gŵyl gymunedol’ mewn cymuned glos
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Ceri Cunnington, mae’n grêt cael bod yn ôl, yn enwedig mewn cymuned mor “glos” â Blaenau Ffestiniog.
“Mi fydd yna groeso cynnes, cymunedol Bro Ffestiniog, cerddoriaeth o’r safon orau, hwyl dros ben llestri a lot o ddathlu.
“Fyswn i’n ddweud ei fod o’n ŵyl gymunedol yn wir ystyr y gair.
“Mae’r gymuned yn tynnu at ei gilydd, y clwb rygbi, y mentrau lleol, y gwirfoddolwyr.
“Jest y tywydd rydan ni’n ei ddisgwyl rŵan ond mae hi’n braf o hyd ym Mlaenau.
“Mae Blaenau’n enwog am ei diwylliant a’i cherddoriaeth felly mae o’n hollbwysig i’r iaith ac i’r gymuned fod digwyddiadau fel hyn yn digwydd yma. Mae o jest yn rhoi hyder i’r gymuned hefyd.
“Mae’r bandiau yn dod o ar draws Cymru ac efallai’n gweld Blaenau am y tro cyntaf yn ei gogoniant.
“Mae o’n dros ugain mlynedd ers i’r pwyllgor gyntaf gafael yn Car Gwyllt ac mae o wedi newid ac esblygu ers hynny ond mae o’n hollbwysig i ni.”
‘Dewis arbennig’ yng Nghymru
“Dw i mor falch bod gwyliau cerddorol yn ôl. Mae yna un yn Rhuthun penwythnos yma ac mae o jest mor braf gweld gwyliau cerddorol yn ôl ar hyd a lled Cymru a bod nhw gyd ychydig bach yn wahanol hefyd.
“Am wlad mor fach, mae’r dewis yma yn arbennig, o ddawns i reggae, rap a phop, dw i ddim yn meddwl bod yna wlad yr un maint efo iaith fel ’ma yn cynhyrchu gymaint o gerddoriaeth anhygoel.
“Dw i’n edrych ymlaen i gael dathlu!”
Yn ôl Ceri, mae rhuthr anferth wedi bod am docynnau munud olaf.
“Mae heddiw wedi bod yn bonkers. Hollol, hollol bonkers.
“Dw i’n meddwl byddan ni’n agos at werthu allan so mae hynna’n grêt.
“Os ydi heddiw’n rhywbeth i fynd yn ôl, mae hi’n edrych fel sell out.”