Ar drothwy rali gyntaf YesCymru ers 2019, mae un o sêr y byd adloniant Cymraeg wedi bod yn dweud ei ddweud wrth gylchgrawn Golwg.

Bydd Tudur Owen yn annerch y dorf yn y rali yfory (2 Gorffennaf) ac mae wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod ef ei hun yn amau doethineb annibyniaeth i Gymru ar un adeg, ond ei fod yn grediniol erbyn hyn mai dyna’r ffordd orau ymlaen.

Yn swyddogol, criw AOUB Cymru sydd yn trefnu’r rali, ac mae hi’n cael ei chefnogi gan YesCymru. Ond ar lafar ac ar lawr gwlad, mae pobol yn cyfeirio ati fel ‘rali YesCymru’.

Daeth tua 8,000 o bobol i rali ddiwethaf YesCymru yng Nghaernarfon yn 2019, ac mae disgwyl miloedd yn Wrecsam yfory i ddangos eu lliwiau a chael clywed negeseuon o blaid annibyniaeth gan Dafydd Iwan, Pol Wong o ‘Indy Fest Wrecsam’, y bardd ac ymgyrchydd Evrah Rose, y Cynghorydd Plaid Cymru Carrie Harper, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, Dylan Lewis Rowlands o ‘Labour for Indy Wales’, a Tudur Owen.

“Prif ran fy neges i,” meddai’r digrifwr a’r cyflwynydd radio poblogaidd wrth gylchgrawn Golwg, “ydi fy mod i bellach yn gwbl argyhoeddedig bod Cymru yn mynd i fod yn annibynnol

“Dw i’n teimlo bod yna hyder yn y mudiad, mae’r ffigyrau’n codi.

“Ond y gwaith sydd gennym ni i’w wneud rŵan i gyrraedd y nod ydi siarad efo pobol yn rhesymol a dangos i bobol yng Nghymru bod annibyniaeth yn gwneud synnwyr.

“Achos er mwyn cael annibyniaeth mae’n rhaid i ni gael caniatâd, mae’n rhaid i ni gael mwyafrif.

“Ac er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i ni siarad efo pobol, siarad efo aelodau teulu, siarad efo pobol yn y gwaith ac ati a’u darbwyllo nhw ei fod o’n gwneud synnwyr…

“Dw i fy hun wedi bod yn amheus o annibyniaeth dros y blynyddoedd, jyst oherwydd: ‘Ydi o’n gwneud synnwyr?’

“Dw i’n un o’r bobol yna sydd wedi cael fy narbwyllo.

“Felly dw i’n cysidro fy hun yn un o’r math o bobol y mae modd newid eu meddyliau nhw.”

“System hen ffasiwn”

Dyw system wleidyddol “hen ffasiwn” y Deyrnas Unedig “ddim yn gweithio” erbyn hyn, yn ôl Tudur Owen, sy’n barnu bod “pethau’n symud yn gyflymach nag allan ni erioed fod wedi’i ddychmygu hyd yn oed pum mlynedd yn ôl”.

“Mae hynny oherwydd beth sydd wedi bod yn digwydd yn San Steffan a gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Wrth gwrs, mae’r Alban yn rhan o’r holl broses efo’r hyn sy’n digwydd yn y fan yna.

“Ond dw i’n meddwl yn bwysicach na hynny, beth rydan ni’n ei weld yn Llundain ydi Llywodraeth Geidwadol sydd jest yn chwalu o gwmpas eu traed nhw…

“Mae hynny yn dangos fod y system wleidyddol yn y Deyrnas Unedig, y system hen ffasiwn yma, dydy o jyst ddim yn gweithio.

“Yr ateb ydi i wledydd y Deyrnas Unedig hawlio annibyniaeth, a dod yn wledydd hyderus o fewn Ewrop ac, wrth gwrs, sydd â chysylltiadau agos at ei gilydd.

“Mae hwnnw yn rhan ohono fo, mae’r cysylltiadau yma rhwng Lloegr a’r Alban a Chymru wastad yn mynd i fod yna.

“Mae’r hanes rydan ni’n ei rannu yn rhan ohono fo, a dw i’n meddwl bod hynna yn mynd i helpu i ddarbwyllo pobol sydd ella yn poeni ein bod ni eisiau torri cysylltiad yn llwyr gyda Lloegr.”

Darllenwch y cyfweliad yn llawn yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg, neu mi fedrwch chi danysgrifio i ddarllen y cylchgrawn ar y We