Mae un o fandiau mwyaf poblogaidd y Sîn Roc Gymraeg yn rhyddhau eu hail albwm heddiw (1 Gorffennaf).

Mawr fu’r disgwyl am Bato Mato, a hynny am sawl rheswm.

Roedd albwm gyntaf Adwaith, Melyn, yn gampwaith wnaeth ennill clod a bri a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019.

Hefyd, fe gafodd y sengl gyntaf oddi ar Bato Mato groeso brwd nôl ym mis Chwefror, ac mae ‘ETO’ yn dal i gael ei chwarae bron yn ddyddiol ar Radio Cymru a Radio Wales.

Mae ‘ETO’ yn gân hyfryd o iwfforig a melodig sydd wedi ysgogi The Guardian i ddweud hyn: “The first single from their second album embodies [a] beautiful push and pull in tersely thrumming bass and vocal harmonies.”

Mae’r albwm Bato Mato wedi ei henwi ar ôl dyn o Siberia fu yn tywys Adwaith o gwmpas yr ardal pan wnaethon nhw ymweld â’r rhanbarth o Rwsia.

Ar gychwyn 2020 – wythnosau yn unig cyn i’r cyfnod clo cyntaf frathu – fe gafodd y genod o Gaerfyrddin fynd i Siberia i chwarae yng ngŵyl UU.Sound mewn arena hoci iâ yn ninas Ulan-Ude, sydd dros 5,000 kilomedr i’r dwyrain o Moscow.

Canada nesaf

Prawf arall o boblogrwydd y band oedd eu hymddangosiad y penwythnos diwethaf ar un o lwyfannau gŵyl fawr Glastonbury – roedden nhw wedi eu dewis i berfformio ar y BBC Introducing Stage.

Mi fyddan nhw yn lansio Bato Mato yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd heno, cyn teithio i’r gogledd ar gyfer Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog yfory (2 Gorffennaf).

Yna ym mis Medi mi fyddan nhw yn teithio i Ganada i berfformio yn Calgary.

Ac ym mis Tachwedd mi fydd y band yn mynd i Lisbon ym Mhortiwgal i recordio trydydd albwm, a’r nod yw cael “feib Ewropeaidd i’r record”.

I ddathlu rhyddhau Bato Mato, mae Golwg yn codi’r wal dalu – pay wall – ar ddau gyfweliad Adwaith gyda’r cylchgrawn eleni…

Adwaith – yn ôl o Rwsia gyda chariad!

Barry Thomas

Trip i Siberia sydd wedi ysbrydoli caneuon newydd y band sydd am fod yn diddanu miloedd o bobol yng Nghaerdydd fis yma

Adwaith yn Glastonbury baby!

Barry Thomas

“Fydden ni gyd yn gwisgo hetiau cowboi coch, ac mae gan Hollie drowsus coch plastig, ac mae gen i boots coch plastig”