Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i chwi ddarllenwyr bleidleisio am eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy am y llyfrau a’r sgrifennwyr. Dyma ddechrau efo Aled Hughes, sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr gyda’i nofel gyntaf, Hela.

Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr…

Nofel am gyfeillgarwch ydy hi i mi yn bennaf, ac yn ail i hynny, am ragrith. Trwy greu stori, dirgelwch, antur ac ychydig o waith plismona i glymu’r holl beth ynghyd – dw i’n gobeithio mai cyfeillgarwch a dal drych i fyny at ragrith ydy’r peth amlycaf. Mae hi wedi’i lleoli mewn ardal arfordirol o ogledd-orllewin Cymru, a dw i hefyd yn adlewyrchu ar y newid sy’n digwydd yn yr ardal yma a rhai tebyg.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Dw i ddim yn siŵr iawn o le ddaeth yr ysbrydoliaeth – fe wnes i jyst dechrau sgrifennu! Cefais i fy magu ym Mhen Llŷn a dw i wedi gweithio fel gohebydd newyddion yng Nghaerdydd ac Abertawe. Tra’n mynychu achosion llys yn y gwaith hwnnw, dw i wedi gweld ac wedi gwrando ar achosion lle mae pobol wedi gwneud pethau uffernol i eraill. O bryd i’w gilydd, mi fyddai rhywun yn gweld y rhain yn cuddio tu ôl i ryw swyddogaeth neu statws o fewn cymuned i dorri’r gyfraith. Felly mae’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan wahanol brofiadau ar hyd fy oes.

Beth yw neges y llyfr?

Dw i ddim yn siŵr am neges, wnes i ddim bwriadu cyfleu rhyw neges. Os oes yna un, yna i beidio â bod yn rhagfarnllyd neu feddwl bod rhywun un well na rhywun arall. Honno yn neges oesol i bob un ohonom ni am wn i!

Pa gyngor sydd gennych chi i eraill fyddai’n hoffi dechrau sgrifennu?

Mynd amdani – fe wnes i ddechrau sgrifennu i weld be fyddai’n bosib – os oedd rhywbeth yn bosib. Fe wnes i amau’n hun yr holl ffordd – meddwl nad oedd o’n ddigon da – ond pen i lawr a chario ymlaen fyddai fy nghyngor i. Chwilio am olygydd neu gyhoeddwr neu gyngor gan rywun yn y maes wedyn. Yn syml iawn – mynd amdani – iddi!

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Lot o lyfrau! Sgythia (Gwynn ap Gwilym), Un Nos Ola Leuad (Caradog Prichard), Jabas (Penri Jones), Llyfr Glas Nebo (Manon Steffan Ros), Lladd Duw (Dewi Prysor), a’r rhan fwyaf o lyfrau Michael Connelly am y ditectif Harry Bosch.

Gallwch ddarllen mwy am Hela a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2022

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ddydd Llun Gorffennaf 11!