Mae llyfrau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Saesneg Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi cael eu henwi.

Cafodd y deuddeg llyfr eu dewis ar gyfer y pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Plant a Phobol Ifanc – gan banel beirniadu’r gwobrau Saesneg.

Eleni, mae’r panel yn cynnwys y bardd a’r awdur Krystal Lowe; y newyddiadurwr a’r darlledwr Andy Welch; yr awdur a’r cyflwynydd Matt Brown; a’r bardd ac enillydd Gwobr ‘Rising Star’ Cymru 2020, Taylor Edmonds.

Dyma’r teitlau fydd yn cwffio am deitl Llyfr y Flwyddyn 2022 yn y Saesneg:

Rhestr Fer Saesneg 2022

Barddoniaeth

A Voice Coming From Then – Jeremy Dixon (Arachne Press)

Inhale/Exile – Abeer Ameer (Seren Books)

The Sorry Tale of the Mignonette – Angela Gardner (Shearsman Books)

Ffeithiol Greadigol

Roots Home: Essays and a Journal – Gillian Clarke (Carcanet)

The Journey is Home: Notes from a Life on the Edge – John Sam Jones (Parthian)

The Long Field – Pamela Petro (Little Toller Books)

Ffuglen

I am the Mask Maker and other stories – Rhiannon Lewis (Victorina Press)

Plain Sluts – Sian Hughes (STORGY Books)

The Fortune Men – Nadifa Mohamed (Viking, Penguin Random House)

Plant a Phobol Ifanc

Daydreams and Jellybeans – Alex Wharton (Firefly Press)

The Shark Caller – Zillah Bethell (Usborne)

The Valley of Lost Secrets – Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)

‘Tasg anodd’

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Andy Welch, ei bod hi wedi bod yn dasg anodd dewis y teitlau.

“Roeddwn wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i ymuno â phanel beirniadu Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a chefais fy llorio gan ansawdd y ceisiadau,” meddai.

“Roedd yn dasg anodd dewis y rhestr fer, ond rydym o’r farn fod y dwsin yr ydym wedi eu dethol yn adlewyrchu natur wreiddiol, hynod adloniannol, ac amrywiol talentau llenyddol Cymreig.”

Bydd enillwyr y gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Wales ar Orffennaf 29, a bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rhannu ymysg yr enillwyr.

Mae’r Rhestr Fer Gymraeg wedi cael ei chyhoeddi yn barod, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarlleniadau ar BBC Radio Cymru rhwng Gorffennaf 19 a 21.

Mae cyfle i bleidleisio am eich hoff gyfrol Gymraeg yng nghystadleuaeth Barn y Bobl ar wefan golwg360, a darllen am y cyfrolau sydd wedi dod i’r brig.

Cynhelir cystadleuaeth Barn y Bobl ar gyfer y cyfrolau Saesneg ar wefan yr Wales Arts Review.

Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2022

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ddydd Llun Gorffennaf 11!

Bwrw golwg ar Lyfr y Flwyddyn 2022

Non Tudur

Ddechrau’r wythnos fe gafodd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 ei chyhoeddi yn fyw ar Radio Cymru