Mae cael dathlu pen-blwydd siop lyfrau Caernarfon yn 20 oed yn “deimlad rhyfeddol”, meddai’r perchennog.
I nodi dau ddegawd ers agor Palas Print heddiw (Gorffennaf 2), bydd yna gacen pen-blwydd, anrheg i bob cwsmer, a gweithgareddau i blant yn y prynhawn.
Mae’r dathliadau eisoes wedi dechrau, wedi iddyn nhw wahodd Twm Morys a Gwyneth Glyn i gan yng ngardd y siop nos Iau (Mehefin 30) gan ddechrau cyfres o gigs yn yr ardd..
Cefnogaeth pobol Caernarfon a’r ardal sydd wedi caniatáu i’r siop fod ar agor cyhyd, meddai Eirian James, perchennog Palas Print.
“Ar un llaw, mae’n teimlo’n rhyfeddol ein bod ni wedi cyrraedd y 20, ond ar yr un pryd dw i’n teimlo’n ifanc iawn o gymharu â rhai siopau eraill sydd wedi bod wrthi am hanner can mlynedd,” meddai wrth golwg360.
“Pan roedden ni’n agor y drws am y cyntaf, roeddwn i’n meddwl ‘Fe wnawn ni roi go ar hwn a gweld sut mae pethau’n mynd’. Roeddwn i yn meddwl amdano fo fel prosiect pum mlynedd i gychwyn i weld sut eith hi.
“Mae hi’n beth braf iawn ein bod ni dal yma, ac mae hynny diolch i’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan bobol Caernarfon a’r ardal ehangach ar hyd y blynyddoedd. Mae pobol wedi bod yn gefnogol iawn i’r siop, ac rydyn ni’n lwcus iawn i’w cael nhw.
“Doedd dim angen profi fo, ond mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cadarnhau i fi mai siop cwsmeriaid ydy hon. Dw i jyst yn edrych ar ei hôl hi, yn galluogi i bethau ddigwydd, mewn ffordd.”
Cyfnod cyffrous a gofidus
Pa atgofion sydd gan Eirian James o’r cyfnod cynnar?
“Dw i’n cofio, er fy mod i wedi helpu allan mewn stondinau llyfrau yn ’Steddfod ac yng Ngŵyl y Gelli cyn agor siop, roeddwn i yn teimlo ar y bore cyntaf bod gen i ddim syniad be oeddwn i’n ei wneud,” meddai.
“Dw i’n cofio siarad gyda chriw o fyfyrwyr yn y brifysgol ryw flwyddyn, myfyrwyr MA Astudiaethau Menywod, a dweud ‘Does gen i ddim plant ond y peth agosaf alla i ymdebygu fo iddo ydy cael plentyn lle ar y diwrnod cyntaf does gen ti ddim syniad beth wyt ti’n ei wneud ond ti’n dysgu wrth fynd ymlaen, mae o’n cadw chdi’n ddeffro yn nos, mae o’n rhoi lot o boen meddwl i chdi, ond mae o hefyd yn rhoi lot o bleser a boddhad’.
“Fatha unrhyw brosiect newydd, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gwybod beth oeddwn i’n ei wneud a chwarae teg roedd y cwsmeriaid yn hynod amyneddgar efo ni ac yn deall ein bod ni’n newydd, ac yn maddau i ni os oedden ni’n cael pethau’n anghywir.
“Roedd ’Steddfod cwta fis ar ôl i ni agor a doeddwn i ddim wedi archebu digon o Raglen y Dydd, a doeddwn i ddim wedi archebu digon o Wobr Goffa Daniel Owen na’r Fedal Ryddiaith na’r Cyfansoddiadau… ond mi gaethon ni faddeuant gan bawb.
“Angharad Price, sydd o ardal Caernarfon, wnaeth ennill y Fedal Ryddiaith y flwyddyn honno felly’n amlwg roedd yna ddiddordeb mawr yn lleol. Rydyn ni wedi gwneud nifer fawr o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd, ond mae hwnna’n un peth wnaethon ni ddim ei wneud achos doeddwn i ddim yn teimlo’n hyderus fy mod i’n gallu trefnu rhywbeth!
“Mae rhywun yn dysgu wrth fynd ymlaen, a beth sy’n wych ydy bod yna rwydwaith o siopau annibynnol ar draws Cymru a thu hwnt ac roedd siopwyr eraill yn hapus i rannu o’u profiad a rhoi ychydig bach o gyngor weithiau.
“I ddechrau doedden ni ddim yn yr adeilad ydyn ni nawr, roedden ni dros ffordd yn trio rhoi trefn ar y stoc achos cymryd drosodd siop arall wnaethon ni. Roedd hynny’n her. Roedd o’n hynod gyffrous ac yn hynod o ofidus ar yr un pryd.
“Dyna dw i’n gofio o’r cyfnod cynnar yna, ac â dweud y gwir dw i’n meddwl bod lot o hwnna dal yn wir heddiw. Mae rhywun yn dal i ddysgu.”
Dathliadau
Cafodd Eirian James y syniad o gynnal gigs yn yr ardd yn ystod haf cyntaf y pandemig gan y byddai’n ffordd o helpu cerddorion lleol, a dyna sut ddechreuodd dathliadau’r 20.
Yn ogystal â chynnig anrheg i bob cwsmer, tamed o gacen pen-blwydd, cyfle i ennill pecyn o lyfrau gwerth £100, a gweithdy celf a chrefft i blant heddiw, bydd clwb crosio lleol yn ailgyfarfod yno am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
“Rydyn ni’n croesawu Clwb Ar y Gweill yn ôl, sef clwb gweu a chrosio sydd wedi bod yn cyfarfod yn y siop am sawl blwyddyn ond oedd wedi gorfod stopio oherwydd Covid,” meddai Eirian James.
“Megis cychwyn y dathliadau ydy hynny, mi fyddan ni’n cynnal digwyddiadau drwy’r flwyddyn i ddathlu. Be dw i am wneud ydy cyfres o ddigwyddiadau gydag awduron, pethau rydyn ni wedi’u gwneud o’r blaen a phethau newydd. Pethau sy’n arwyddocaol i ni.”