Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i chwi ddarllenwyr bleidleisio am eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy am y llyfrau a’r sgrifennwyr. Dyma sgwrs gyda Grug Muse, sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr gyda’i hail gyfrol o gerddi, merch y llyn.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr…
Casgliad o gerddi ydi’r gyfrol, sy’n myfyrio ar themâu cysylltiedig yn ymwneud â chwedloniaeth, dŵr, a chyrff merched.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?
Wnes i dynnu ysbrydoliaeth o lawer o wahanol lefydd; o chwedloniaeth, ac o lefydd penodol, yn enwedig llefydd wrth yr arfordir, neu wrth afonydd a llynnoedd. Mi wnes i hefyd dynnu rhywfaint ar brofiad personol.
Beth yw neges y gyfrol?
Does ’na ddim neges fel y cyfryw, croeso i’r darllenydd ddod o hyd i’w neges ei hun (neu beidio).
Pa gyngor sydd gennych chi i eraill fyddai’n hoffi dechrau sgrifennu?
Cymrwch y sgwennu o ddifri, ond dim chi’ch hunain.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Yn ddiweddar, mae A Ghost in the Throat gan Doireann Ní Ghríofa wedi bod yn ddylanwad, ond yn gyffredinol dwi’n ei chael hi’n anodd deud be sy’n ddylanwad neu beidio mewn gwirionedd. Mae pob dim ti’n ei ddarllen yn troi’n lobsgóws yn dy ben di, a phwy sy’n gwybod ar ddylanwad pwy wyt ti’n dynnu ar unrhyw ddiwrnod. Falle gallwn i enwi beirdd fel Safia Elhillo, Rebecca Tamás a Diana Khoi Nguyen fel beirdd dwi’n cofio eu darllen yn benodol wrth weithio ar merch y llyn.