Mae’n bosib y gall symud at economi wyrddach a mwy digidol olygu y bydd merched yn fwy anghyfartal fyth yn y byd gwaith.
Yn ôl adroddiad newydd gan elusen cydraddoldeb rhywedd Chwarae Teg, wrth i’r economi ddod yn fwyfwy dibynnol ar dechnoleg, mae menywod yn wynebu mwy o berygl o golli eu swyddi.
O ystyried yr holl rolau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gael eu cwblhau gan dechnoleg yn y dyfodol (,awtomeiddio), mae 64% o’r gweithwyr yn y swyddi hynny’n fenywod.
Mae menywod o leiafrifoedd ethnig yn wynebu mwy fyth o berygl o golli eu swyddi i dechnoleg, meddai’r adroddiad ‘Tuag at Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru: Ymateb i Economi sy’n Trawsnewid’.
Ynghyd â hynny, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli mewn sectorau sy’n debygol o weld twf mewn swyddi o ganlyniad i ddigideiddio. 23% o weithwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol cysylltiol ym maes gwyddoniaeth, ymchwil a thechnoleg Cymru sy’n ferched.
Effaith yr argyfwng hinsawdd
Tynna’r adroddiad sylw at y ffordd mae menywod yn cael eu heffeithio “lawer mwy” gan yr argyfwng hinsawdd a’r gweithredu i leihau allyriadau carbon, hefyd.
Mae gofalu am yr amgylchedd wedi golygu bod stereoteipio rhywedd yn dod yn fwyfwy amlwg o ran pwy sy’n cymryd cyfrifoldeb am newidiadau yn y cartref, meddai.
Yn ogystal, mae menywod yn llai tebygol o elwa gan y swyddi a’r hyfforddiant newydd sy’n cael eu creu gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i weithredu sero net.
Mae ffocws y llywodraeth ar ddatgarboneiddio diwydiannau fel adeiladu ac ynni, lle mae gwahaniaethau o ran rhywedd, yn golygu bod menywod yn colli cyfleoedd i ddatblygu yn eu gyrfaoedd a mynd i’r afael â chyfleoedd newydd, meddai Chwarae Teg.
Yn eu hargymhellion i Lywodraeth Cymru, mae’r elusen yn galw am ddatblygu llwybr prentisiaeth glir i gymwysterau ym maes technoleg, a mabwysiadau diffiniad ehangach o “economi werdd” sy’n mynd tu hwnt i ddatgarboneiddio diwydiant.
Maen nhw hefyd am weld Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod rhaglenni ôl-insiwleiddio cartrefi yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol.
‘Cosbi ddwywaith’
Dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr yr elusen, bod yr ymchwil yn dangos yn glir sut y bydd trawsnewid economi Cymru’n effeithio ar fenywod ledled Cymru yn wahanol “ac o bosib, yn annheg”.
“Mae menywod mewn perygl o gael eu cosbi ddwywaith, gan ysgwyddo baich effeithiau mwyaf negyddol awtomeiddio a’r argyfwng hinsawdd, a methu â manteisio ar y buddsoddiad mewn swyddi a diwydiannau newydd wrth i ni gofleidio digideiddio a’r pontio i economi gwyrdd,” meddai Cerys Furlong.
“Er gwaetha’r risgiau amlwg hyn, fel mae’r adroddiad yn ei ddangos, does dim digon o sylw’n cael ei roi i sut mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig â thrawsnewid ein heconomi. Os na wnawn ni weithredu nawr, rydyn ni mewn perygl o weld anghydraddoldeb yn ein cymdeithas yn parhau wrth i’n byd economaidd newid yn eithafol.
“Nid yw’r tueddiadau hyn yn ein heconomi’n anochel ac mae modd eu rheoli. Ni ddylai menywod, ac yn enwedig menywod o leiafrifoedd ethnig, gario baich y newidiadau i’n byd economaidd.”