Mae dysgwraig ifanc aeth ati i ddechrau dysgu Cymraeg yn Hydref 2019 wedi cael swydd ar gynllun Tiwtoriaid Yfory Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd Elinor Staniforth, sy’n dod o Gaerdydd, yn dechrau ar y gwaith rhan amser ym mis Medi, ond cyn hynny bydd hi’n ymuno â chriw o bobol ifanc ar gynllun Tiwtoriaid Yfory y Ganolfan Genedlaethol.

Mae hi’n un o 13 a fydd yn dilyn y cynllun hyfforddiant, sy’n cael ei gynnal i ddarpar diwtoriaid Dysgu Cymraeg ddechrau mis Gorffennaf.

Mae hi wedi cwympo mewn cariad â’r Gymraeg, ac mae hi’n astudio gradd Meistr mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae hi’n canolbwyntio ar gaffael iaith.

“Pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, ro’n i’n gwybod ’mod i wedi dod o hyd i’r pwnc cywir,’’ meddai.

“Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd, a dw i eisiau i eraill gael yr un profiad â dw i wedi ei gael yn yr ystafell ddosbarth.

“Dw i mor falch mod i wedi cael cynnig lle ar y cynllun, a dw i’n edrych ymlaen at ddysgu eraill.”

Cefndir Elinor Staniforth

Aeth Elinor Staniforth i Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd, ac astudiodd y Gymraeg ar gyfer TGAU.

Treuliodd hi dair blynedd yn astudio Celf yn Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen, a phenderfynu mynychu dosbarth Cymraeg ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, er mwyn cyfarfod pobol.

‘‘Pan ddes i adref, roedd fy ffrindiau wedi gadael Caerdydd,” meddai.

“Ro’n i’n chwilio am swydd ac ro’n i eisiau cyfarfod pobol, felly wnes i benderfynu rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg.

“Dyna’r peth gorau wnes i achos dw i wedi gwneud ffrindiau oes.

“Pan aeth y dysgu ar-lein achos Covid-19, mi wnes i gyfarfod mwy o bobol.

“Bu dysgu ar-lein yn ystod y pandemig o gymorth mawr i mi ac mae wedi bod yn hyfryd croesawu dysgwyr o bob cwr o’r byd i’r dosbarth.’’

‘Ewch amdani’

O fis Medi eleni, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobol ifanc 18-25 oed.

Mae Elinor Staniforth o’r farn fod treulio ychydig oriau’r wythnos yn dysgu Cymraeg yn werthchweil a byddai’n annog eraill i gymryd mantais o’r cynnig.

“Ewch amdani,” meddai.

“Bydd dysgu Cymraeg yn edrych yn dda ar eich CV ac mi wnewch chi gyfarfod pobol mor ddiddorol.

“Yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn mwynhau dysgu ieithoedd, ond mae dysgu iaith yn bosib, dych chi angen amser ac amynedd.

“Does dim angen i chi fod yn wych gydag ieithoedd, dim ond dal ati a pheidio â rhoi’r gorau iddi cyn cychwyn!”