Mae pecyn newydd wedi cael ei lansio gan y naturiaethwr Iolo Williams i annog plant i gamu i’r awyr agored.
Llwybr Arfordir Cymru, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed eleni, a’r Urdd sy’n gyfrifol am greu’r pecyn adnoddau newydd.
Nod y pecyn yw darparu profiad dysgu awyr agored unigryw i ddisgyblion drwy natur, bywyd gwyllt a hanes lleol, a gellir ei fwynhau ger canolfannau’r Urdd yn Llangrannog a Bae Caerdydd.
Mae’n bosib defnyddio’r pecyn i wneud cwisiau, archwilio ogofau, ysgrifennu barddoniaeth ac adnabod rhywogaethau hefyd.
Dan arweiniad Iolo Williams, ac yng nghwmni disgyblion o’r ysgol leol, Ysgol Hamadryad, cafodd y pecyn ei lansio yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd yr wythnos hon, a chynhaliwyd taith ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd.
“Mae mor bwysig bod plant yn cael eu haddysgu o oedran cynnar am bwysigrwydd bod yn gysylltiedig â natur a bywyd gwyllt,” meddai Iolo Williams.
“Mae archwilio’r awyr agored yn esgor ar lu o fanteision o ran lles, ac mewn oes fwyfwy digidol, mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen cael cefnogaeth sefydliadau fel Llwybr Arfordir Cymru a’r Urdd i ysbrydoli’r genhedlaeth iau.”
‘Gwneud cyfraniadau i’w cymunedau’
Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, eu bod nhw fel sefydliad yn “ymroddedig i roi cyfleoedd a phrofiadau i bobol ifanc”.
“Mae eu trochi ym mhopeth sydd gan Gymru i’w gynnig — yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol — yn hanfodol i’w galluogi i wneud cyfraniadau cadarnhaol i’w cymunedau,” meddai Sian Lewis.
“Mae pob un o’n tair canolfan ieuenctid wedi’u lleoli ar arfordir Cymru neu’n agos ato, ac rydym yn manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r lleoliadau arfordirol hynny pan fydd plant a phobol ifanc yn dod i ymweld.”
Wrth i Lwybr yr Arfordir ddathlu’r deg, does yna ddim adeg bwysicach i hyrwyddo manteision yr awyr agored – boed er lles neu addysg – i’r genhedlaeth iau, meddai Sioned Humphreys, Swyddog Marchnata’r llwybr.
“A thrwy ddefnyddio ein pecyn adnoddau newydd, rydym yn gobeithio gweld pobl ifanc yn dod yn llysgenhadon yr awyr agored — gan sicrhau y bydd y Llwybr yn cael ei fwynhau a’i warchod am flynyddoedd i ddod.”