Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygu gwasanaethau plant yng Nghymru yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, (Mehefin 30) cafodd mam, llystad a bachgen yn ei arddegau eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio’r bachgen 5 oed.

Cafwyd hyd i’w gorff yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf y llynedd.

Fe fydd mam Logan Mwangi, Angharad Williamson, 31, yn treulio o leiaf 28 mlynedd dan glo, tra bod ei phartner John Cole, 40, wedi ei ddedfrydu i isafswm o 29 mlynedd yn y carchar. Mae Craig Mulligan, 14 oed, wedi ei ddedfrydu i o leiaf 15 mlynedd dan glo.

‘Amddiffyn plant’

“Roeddwn yn arswydo o weld manylion yr achos, ac rwy’n falch o weld y rheini wnaeth gipio bywyd bachgen ifanc cyn iddo ddechrau yn cael eu cosbi,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau plant, Gareth Davies.

“Rwy’n anfon fy nghydymdeimlad at dad Logan a gweddill ei deulu a’i ffrindiau, athrawon yn Ysgol Gynradd Tondu, sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achos erchyll hwn.

“Fel y dywedais pan gafwyd llofruddwyr Logan yn euog, roeddwn yn synnu bod y Prif Weinidog wedi dweud nad oedd yn credu bod angen adolygiad annibynnol o wasanaethau plant yng Nghymru ar ôl i’r achos trasig hwn amlygu rhai diffygion difrifol.

“Mae hyn yn fwy dryslyd o ystyried bod tair gwlad arall y Deyrnas Unedig yn cynnal un ar hyn o bryd ac mai Cymru sydd â’r gyfradd waethaf o blant sy’n derbyn gofal.

“Ni ddylid caniatáu i’r achosion hyn fyth ddigwydd ac mae plant sy’n agored i niwed yn haeddu cael eu hamddiffyn yn llawn gan y wladwriaeth, ac nid wyf yn deall pam mae llywodraeth Mark Drakeford yn dweud na wrth adolygu gwasanaethau plant ond ie i ehangu’r Senedd a chreu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

“Rwy’n annog y Llywodraeth Lafur i gynnal adolygiad annibynnol.”

Llofruddiaeth Logan Mwangi: Tri yn cael eu dedfrydu i garchar am oes

Cafodd mam y bachgen 5 oed ei dedfrydu i 28 mlynedd o garchar, ei lystad i 29 mlynedd, a bachgen, 14, i 15 mlynedd