Mae mwy nag 8,000 o bobol wedi bod yn gorymdeithio dros annibyniaeth i Gymru yn Wrecsam heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 2).
Yr orymdaith oedd penllanw penwythnos o weithgareddau sydd wedi’u trefnu gan AUOB Cymru mewn partneriaeth ag IndyFest Wrecsam a Yes Cymru.
Roedd nifer o siaradwyr a cherddorion mewn amryw o leoliadau yn Llwyn Isaf.
“Mae ysbryd newydd ar gerdded trwy Gymru, a’r teimlad yn cynyddu y gallwn ni wneud yn well dros bobol Cymru wrth reoli ein hunain,” meddai Dafydd Iwan, fu’n perfformio ‘Yma O Hyd’.
“Dyna yw ystyr annibyniaeth, nid torri i ffwrdd, ond ymuno â’r holl wledydd eraill sy’n rheoli eu hunain.
“Mae Cymru yn dechrau credu ynddi ei hunan, a does dim all ein rhwystro bellach.”
Hon oedd y bedwaredd orymdaith mewn cyfres o Orymdeithiau dros Annibyniaeth, a’r gyntaf ers llacio cyfyngiadau Covid.
Cafodd y tair gorymdaith flaenorol eu cynnal yn 2019 – yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr.
‘Mae’r achos dros annibyniaeth wedi’i wneud’
Roedd y darlledwr a’r digrifwr Tudur Owen yn un o’r siaradwyr oedd yn galw am Gymru annibynnol yng nghanolfan ddinesig Wrecsam.
“Mae’r achos dros annibyniaeth wedi’i wneud,” meddai.
“Rydyn ni nawr angen cefnogaeth pobol Cymru, a dyna ein her nesaf.”
Yn ogystal â Dafydd Iwan a Tudur Owen, roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys yr Archdderwydd presennol Myrddin ap Dafydd, Cynghorydd Sir Plaid Cymru Wrecsam Carrie Harper, y bardd lleol Evrah Rose, Pol Wong o Indyfest Wrecsam, cyd-gadeirydd Llafur dros Annibyniaeth Dylan Lewis-Rowlands a llysgennad pêl-droed ‘Her Game Too’, Roopa Vyas.
Roedd yna hefyd neges fideo arbennig gan Mary Lou McDonald, Llywydd Sinn Féin.
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i chi gyda’ch gorymdaith heddiw,” meddai.
“Bydd gennych chi ffrindiau yma yn Iwerddon bob amser.
“Yn fwy na dim, dymunaf ddyfodol sy’n cyd-fynd â gobeithion a dyheadau’r Cymry.”
‘Mae pobol eisiau Cymru well’
“Roedden ni mor siomedig pan amharodd Covid ar ein cynlluniau 2 flynedd yn ôl, ond rydyn ni wrth ein bodd bod pobol yn credu mor gryf yn yr achos fel eu bod wedi teithio o bob rhan o Gymru i gyrraedd yma heddiw,” meddai Kieran Thomas, un o drefnwyr yr orymdaith.
“Mae pobol eisiau Cymru well a gallant weld nad yw’r wladwriaeth Brydeinig aneffeithiol yn mynd i’w darparu.
“Mae’r orymdaith hon wedi bod yn hwb economaidd mawr i Wrecsam ac mae’r misoedd o waith caled wedi talu ar ei ganfed.”