Mae’n ymddangos bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd yn y fantol.
Bydd Llafur Cymru yn cynnal cynhadledd arbennig heddiw (Gorffennaf 2) i benderfynu a fyddan nhw’n cefnogi’r cynigion i ddiwygio’r Senedd.
Mae gan Mark Drakeford gefnogaeth sylweddol gan ddwy undeb fwyaf Cymru, Unite ac Unsain, ac mae disgwyl iddyn nhw gefnogi’r cynigion.
Fodd bynnag, mae tair undeb arall, yn ogystal â rhai o ganghennau lleol y blaid, yn gwrthwynebu.
Y cynllun
Pe bai’r cynigion cael eu cymeradwyo, gallai weddnewid gwleidyddiaeth Cymru.
Y cynllun yw cynyddu maint Senedd Cymru o’r 60 aelod presennol i 96, gyda chwotâu rhyw yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod yr un nifer o ddynion a menywod yn y siambr.
Y bwriad yw i etholaethau Cymru ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 fod yr un fath â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig erbyn hynny.
Yna byddai’r etholaethau hynny’n cael eu cyplysu er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.
Ac yn ôl y cynllun fe fydd system D’Hondt yn cael ei defnyddio gyda rhestrau ymgeiswyr caeedig – sy’n symud tuag at system gyfrannol o’i gymharu â’r drefn Cyntaf i’r Felin – yn cael ei mabwysiadu.
Dan y drefn ‘rhestrau ymgeiswyr caeedig’, fe fyddai pobol yn pleidleisio am bleidiau ac nid unigolion, ac ni fyddai modd bwrw pleidlais tros wleidydd penodol.
Ar hyn o bryd caiff 20 o Aelodau’r Senedd eu hethol drwy system restr, gan ddefnyddio dull D’Hondt, ond o dan y cynlluniau hyn byddai’r 96 yn cael eu hethol drwy ddefnyddio’r drefn honno.
Gwrthwynebiad
Mae’r ‘system rhestr gaeedig’ yn cael ei wrthwynebu’n agored gan rai canghennau Llafur, a chafodd ei diystyru gan banel arbenigol a archwiliodd ddiwygiadau etholiadol posibl yn 2017.
Yr wythnos ddiwethaf, fe bleidleisiodd Plaid Lafur y Rhondda yn unfrydol yn erbyn y cynigion, tra bod Plaid Lafur Llanelli hefyd yn gwrthwynebu.
Mae aelodau’r Rhondda yn cefnogi diwygio mewn egwyddor, yn ôl yr Aelod Seneddol lleol Chris Bryant, ond wrth gyhoeddi canlyniad y bleidlais, dywedodd nad oedden nhw’n fodlon gyda’r system ar gyfer ethol aelodau’r Senedd.
Yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym mis Mawrth, fe wnaeth cynrychiolwyr bleidleisio’n unfrydol o blaid cynigion i gynyddu maint y Senedd i rhwng 80 a 100 o aelodau, ond ni chafwyd penderfyniad ar ba system etholiadol i’w mabwysiadu.
Mae’n debyg bod hynny yn dod yn ôl i frathu Llywodraeth Cymru nawr.
“Rydyn ni’n gwrthwynebu ethol chwe chynrychiolydd ym mhob etholaeth ar restrau caeedig,” meddai Chris Bryant.
“Bydd yn golygu fod Aelodau o’r Senedd yn llawer llai cysylltiedig â phobol leol.
“Mae yna systemau cyfrannol eraill, gwell.”
“Llu o broblemau”
Mae’r Athro Laura McAllister, sy’n arbenigwr ar wleidyddiaeth a llywodraethu, a gadeiriodd banel arbenigol 2017 ar ddiwygio etholiadol y Senedd, wedi disgrifio’r system y mae Llafur a Phlaid Cymru am ei chyflwyno fel “dewis rhyfedd” sy’n dod â “llu o broblemau”.
Yn ôl Laura McAllister, byddai cyflwyno cwotâu rhyw, lle bydd ymgeiswyr etholedig yn cael eu dewis i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau, yn cymhlethu’r mater ymhellach.
Wrth ysgrifennu ar gyfer Blog yr Uned y Cyfansoddiad, dyweda Laura McAlister: “Gwrthodwyd system rhestr gyfrannol gaeedig gan ein panel arbenigol gan ei bod wedi methu â bodloni nifer o’n meini prawf ar gyfer system etholiadol gref.
“Y mwyaf nodedig o’r rhain oedd dewis ac atebolrwydd pleidleiswyr.
“Mae’n ddewis rhyfedd, gan fod llu o broblemau gyda systemau rhestr gaeedig, yn fwyaf nodedig drwy hyrwyddo rheolaeth plaid dros ddewis pleidleiswyr.
“O dan restrau caeedig, nid oes gan bleidleiswyr unrhyw ddylanwad ar yr hierarchaeth lle caiff ymgeiswyr eu hethol – mae hyn yn cael ei ddewis ymlaen llaw gan y blaid, yn lleol neu’n genedlaethol.
“At hynny, yn yr achos penodol hwn, bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis, nid yn unig gan y pleidiau, ond hefyd yn ôl rhyw, sy’n rhoi hyd yn oed llai o ddewis annibynnol i bleidleiswyr.”
“Anoddach i sicrhau llywodraeth Lafur”
Yn y cyfamser, mae tri undeb sy’n cefnogi Llafur wedi mynegi “pryderon difrifol” am gynigion i gael 36 gwleidydd ychwanegol yn y Senedd.
Mae GMB, Community ac Usdaw yn dweud y byddai’r cynigion yn ei gwneud hi’n “anoddach i sicrhau llywodraeth Lafur Cymru”.
“Er ein bod ni’n awyddus i sicrhau bod y Senedd yn cael yr adnoddau angenrheidiol i graffu ar weinidogion a datblygu cyfreithiau i Gymru, credwn fod diffyg amser i’r cynigion gael eu trafod a’u craffu o fewn y blaid, yr undebau llafur a’r mudiadau cysylltiedig”, meddai’r undebau.
“Yn benodol, rydym yn pryderu am unrhyw newidiadau i system etholiadol y Senedd a fyddai yn ei gwneud yn anoddach i sicrhau llywodraeth Lafur Cymru ac a fyddai’n gwneud anghymwynas â gweithwyr, undebwyr llafur a dinasyddion Cymru.”