Dylai refferendwm gael ei gynnal ar gynlluniau Llafur a Plaid Cymru i ddiwygio’r Senedd, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Tom Giffard, Aelod o’r Senedd De Orllewin Cymru, ei bod hi’n “bwysig bod pobol Cymru’n rhoi’r mandad yna i ni wneud newidiadau”.

Y bwriad yw cynyddu maint Senedd Cymru o’r 60 aelod presennol i 96, gyda chwotâu rhyw yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod yr un nifer o ddynion a menywod yn y siambr.

Dan y cynlluniau, byddai etholaethau yn etholiad y Senedd yn 2026 yr un fath â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig, sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

Y bwriad yw cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.

Ac yn ôl y cynllun fe fydd system D’Hondt yn cael ei defnyddio gyda rhestrau ymgeiswyr caëedig– sy’n symud tuag at system gyfrannol o’i gymharu â’r drefn Cyntaf i’r Felin – yn cael ei fabwysiadu.

Dan y drefn ‘rhestrau ymgeiswyr caëedig’, fe fyddai pobol yn pleidleisio am bleidiau ac nid unigolion, ac ni fyddai modd bwrw pleidlais tros wleidydd penodol.

Refferendwm

Er ei fod yn derbyn bod yna fanteision i’r cynlluniau, mae Tom Giffard yn grediniol y dylai “pobol Cymru gael dweud eu dweud ar y mater”.

“Mae yna fanteision, dw i am ddechrau drwy ddweud bod yna fanteision o newid y ffordd mae’r Senedd yn gweithio,” meddai wrth golwg360.

“Ond mae’n bwysig i ni gofio bod y Senedd yn berchen i bobol Cymru, felly dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig fod y cyhoedd yn cael cyfle i gymeradwyo’r newidiadau.

“Os ydi pobol yn credu yn y Senedd – a dw i’n un ohonyn nhw – ac yn credu bod y Senedd yn gallu bod yn rhywle sy’n gwneud da yng Nghymru, mae’n bwysig bod pobol Cymru’n rhoi’r mandad yna i ni wneud newidiadau.

“Dyna ydi’r gwahaniaeth rhwng beth dw i yn ei ddweud, a beth mae Plaid a Llafur yn ei ddweud.

“Byddai’n ymgyrchu yn erbyn y newidiadau am lawer o resymau, ond y peth pwysig ydi ei bod ni’n cael refferendwm fel bod pobol Cymru’n cael dweud eu dweud ar y mater.”

Oes yn fandad?

Pe bai refferendwm yn cael ei gynnal, mae’n debyg mai’r cwestiwn mawr ydi faint o bobol fyddai’n pleidleisio?

Wedi’r cwbl 46.6% o’r boblogaeth wnaeth bleidleisio yn etholiadau’r Senedd y llynedd.

O ystyried hynny, oes yna bwynt cynnal refferendwm?

“Mae’n wir nad oes yna erioed fwy na 50% o’r boblogaeth wedi pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac mae hynna yn rhywbeth trist,” meddai Tom Giffard.

“Fel y dywedais ynghynt, dw i’n credu yn y Senedd ac yn credu ei fod yn gallu bod yn rhywle sy’n gwneud da yng Nghymru.

“Ond mae’n rhaid cofio nad yw pawb yng Nghymru yn cymryd rhan yn etholiadau’r Senedd.

“Os rhywbeth mae hwnna yn rheswm arall i gynnal refferendwm.

“Mae Llafur a Plaid Cymru yn dweud bod ganddyn nhw fandad i wneud y newidiadau hyn, ond pan ti’n edrych ar faniffesto’r ddwy blaid mae eu cynlluniau yn hollol wahanol i beth sydd wedi dod allan rŵan.

“Dyna pam mae angen refferendwm.

“Rydan ni fel plaid yn erbyn y cynigion hyn, ond fe fydden ni’n fodlon derbyn pa bynnag ganlyniad fyddai’n dod o refferendwm.

“Os ydi Llafur a Plaid Cymru yn meddwl fod pobol Cymru o blaid y cynigion, fe ddylen nhw fod yn barod i gynnal refferendwm.”

Cwotâu rhyw

Elfen allweddol o’r diwygio yw cyflwyno cwotâu rhyw er mwyn cael yr un nifer o ddynion a menywod yn siambr yn y Senedd.

“Creu Senedd fodern” yw’r bwriad, yn ôl Mark Drakeford ac Adam Price.

Fodd bynnag, mewn dadl yn y siambr ddoe (dydd Mercher, Mehefin 9), dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar, a ymddiswyddodd o’r pwyllgor oedd yn ymgynghori ar ddiwygio’r Senedd ar ôl i Lafur a Plaid Cymru gyhoeddi eu cynigion, nad oes gan y Senedd “y pwerau i osod cwotâu rhywedd statudol”.

“Roedd y cyngor cyfreithiol hwnnw’n glir i ni ar y pwyllgor,” meddai.

Lle mae Tom Giffard yn sefyll ar gwotâu rhyw felly?

“Doeddwn i ddim yn rhan o’r pwyllgor oedd yn edrych i mewn i hyn,” meddai.

“Ond beth mae Darren (Millar) wedi ei ddweud drwy gydol y broses yw bod cyfreithwyr Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir nad oes gan y Senedd y pŵer i wneud y newidiadau hyn.

“Felly mae hynna yn codi llawer o gwestiynau os ydi’r newidiadau yn gallu mynd drwyddo, hyd yn oed os ydi’r Senedd yn pleidleisio amdanyn nhw.

“O ran y cwotâu eu hunain, oes mae yna broblem gyda faint o fenywod sy’n rhan o’r Senedd.

“Ond yn y ddadl ddoe, dw i’n meddwl mai’r person wnaeth siarad orau am y peth oedd Natasha Asghar (Aelod o’r Senedd Ceidwadol De Ddwyrain Cymru).

“Roedd hi’n dweud mai beth mae hyn yn ei wneud mewn difrif yw rhoi faint o fenywod sydd yn y Senedd uwchlaw hil, anabledd neu unrhyw beth arall.

“Mae hi’n fenyw o liw, y cyntaf erioed rydan ni wedi’i gael yn y Senedd, ac roedd hi’n dweud: ‘Dw i wedi’i gwneud hi yma ar liwt fy hun, doeddwn i ddim angen cwotâu i gyflawni hynny ac mae o braidd yn nawddoglyd gweld y cynlluniau yma’n cael eu cynnig’.”

‘Plaid Cymru ddim yn dal y Llywodraeth i gyfrif’

Gyda Llafur a Plaid Cymru yn gytûn ar y mater o ddiwygio’r Senedd ac yn cydweithio a’r 48 o feysydd polisi o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio, dyw Tom Giffard ddim yn credu fod Plaid Cymru yn dal y Llywodraeth i gyfrif fel gwrthblaid.

“Does gen i ddim llawer o broblem gyda nhw’n gweithio gyda’i gilydd,” meddai.

“Ond dw i ddim yn meddwl fod y Senedd yn cael y balans iawn.

“Ni yw’r unig blaid sy’n dwyn y Llywodraeth i gyfrif.

“Dw i wedi gweld cwestiynau Adam Price i’r Prif Weinidog dros yr wythnosau diwethaf, ac oherwydd y cytundeb cydweithio dydi Plaid Cymru ddim i weld yn gwneud y gwaith yna o graffu ar y Llywodraeth.

“Mae hynna yn bwysig, dyna mae’r gwrthbleidiau i fod i wneud.

“Rydyn ni fod i edrych ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a gofyn cwestiynau am y peth.

“Dw i ddim yn meddwl bod Adam Price yn gwneud hynna.”