Mae’r gwahardd gwerthu diodydd egni i bobol dan 16 oed ymhlith syniadau newydd Llywodraeth Cymru i wella iechyd pobol ifanc ac atal cyfraddau gordewdra rhag cynyddu.
Daw hyn wrth i ffigyrau ddatgelu bod oddeutu 1.6m o oedolion yng Nghymru’n ordrwm, tra bod 655,000 yn ordew.
Yn ôl y Therapydd Maeth cofrestredig, Aron Snowsill, byddai hyn yn gam gychwynnol addawol ond mae angen mwy o addysg i blant a rhieni am faeth a diet.
“Ma’ fe’n ddechrau, ac yn ddechrau da.
“Mae mwy angen ei wneud ond o leiaf mae rhywbeth yn cael ei wneud.
“Chi byth eisiau pryderu plant yn ormodol bod gordewdra yn gallu arwain at afiechydon a chlefydau difrifol, ond mae’n bwysig eu bod nhw’n deall hyn,” meddai Aron Snowsill.
Ateb ‘aml-ffactor’
Mae’r Therapydd Maeth yn dweud bod ateb aml-ffactor i wella iechyd pobol ifanc ac atal cyfraddau gordewdra rhag cynyddu yng Nghymru, ond mae angen pwysleisio bod addysg i rieni’r un mor bwysig â darparu addysg i blant.
“Ni ddim yn gallu rhoi’r cyfrifoldeb ar y plant. Wrth gwrs, y cyfrifoldeb yw addysg ac addysg i’r rhieni.
“Ond nid yw’r rhieni wedi cael addysg eu hunain.
“Felly mae’r rhieni yn dod ata’ i i gael eu haddysg nhw ac os dydyn nhw ddim yn dod ata’ i, maen nhw’n mynd ar Google neu’r cyfryngau cymdeithasol ac nid yw hwnna’n ffynhonnell ddibynadwy.”
Mae cynnig digonedd o opsiynau bwyd iach mewn ysgolion hefyd yn ateb posib i’r broblem, yn ôl Aron.
“Mae angen sicrhau bod opsiynau iachus ond nid yn unig un opsiwn iachus. Mae angen i bron pob un opsiwn fod yn iachus.”
Ond mae hefyd angen helpu’r plant i wneud y cysylltiad o’r pridd i’r plât, meddai.
“Os maen nhw’n gweld y gwahaniaeth rhwng bwyd sydd newydd ddod o’r pridd a dyma’r broses sydd wedi digwydd, ac yn gallu cymharu hwnna gyda bwyd sydd wedi cael ei brosesu mewn ffatri – gobeithio byddai hynna yn annog nhw i fwyta rhywbeth mwy naturiol,” meddai.
Angen ‘ffynhonnell ddibynadwy’ o addysg
“Ro’n i’n sgwrsio gyda ffrind am gyn lleied ry’n ni’n gwybod am sut mae ein cyrff ni yn gweithio.
“Mae angen rhyw fath o addysg i wybod a deall yr effaith mae bwydydd, fel rhai sy’n uchel mewn siwgr, yn cael ar ein corff ac ar ein lles meddyliol.
“Y sialens yw gwybod pwy i ymddiried ynddyn nhw o ran lle chi’n cael eich gwybodaeth.
“Os chi ond yn cael eich gwybodaeth o Instagram ac influencers, dyw e ddim rili yn ffynhonnell ddibynadwy o gwbl.
“O leiaf os chi’n cael addysg o’r ysgol, chi’n gwybod bod rhyw fath o gywirdeb.
“Yn anffodus, mae llawer o bobol ond yn dysgu am eu cyrff nhw ac effaith bwyd arnyn nhw pan mae rhywbeth yn mynd yn anghywir, yn lle atal y peth anghywir rhag digwydd i’ch corff chi yn y lle cyntaf,” meddai Aron.