Mae gormod o alw am ymchwil pellach yn hytrach na gweithredu yn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Cynhaliwyd yr ymchwil yn sgil adroddiad y Dr Simon Brooks, ‘Ail gartrefi – Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’. Ers cyhoeddi adroddiad Dr Simon Brooks mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun o fesurau peilot yn Nwyfor a dau ymgynghoriad.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith dydy’r argymhellion ddim yn cyfleu maint na difrifoldeb y broblem.
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: “Mae cael cartref yn broblem real ac yn broblem nawr, ond does dim awgrym o frys yn yr argymhellion, dim ond gofyn am ddiweddariadau am gynlluniau sy’n bodoli yn barod, cynnal ymchwiliadau pellach a chreu comisiwn newydd, nad yw’n glir beth fydd ei rôl.
“Mae’r adroddiad fel petai’n awgrymu y bydd gwerthusiad llawn o’r cynllun peilot yn Nwyfor ar ddiwedd y cynllun ac mai dim ond wedi hynny y bydd mesurau yn cael eu ehangu. Pam na ellid dechrau rhoi mesurau llwyddiannus ar waith yn ehangach yn syth? Ble mae’r brys?”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo ers y 1980’au, ac yn ôl y mudiad nid rhywbeth newydd yw’r broblem tai, er iddo waethygu a dod i’r amlwg yn ddiweddar.
Ychwanegodd Jeff Smith: “Mae angen ymchwil i ddeall y broblem, ond fydd rhagor o ymchwil ddim yn galluogi pobl i gael cartref yn eu cymuned. Yr hyn sydd ei angen yw Deddf Eiddo gyda mesurau i sicrhau’r hawl i gartref yn lleol, sy’n grymuso ac yn buddsoddi mewn cymunedau, ac sy’n sicrhau bod tai yn gynaliadwy – yn amgylcheddol ac yn economaidd.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn:
1) Sicrhau yr hawl i gartre’n lleol
2) Cynllunio ar gyfer anghenion lleol
3) Grymuso cymunedau
4) Blaenoriaethu pobl leol
5) Rheoli sector rhentu
6) Darparu cartrefi cynaliadwy
7) Buddsoddi mewn cymunedau