Mae gwahardd gwerthu diodydd egni i bobol dan 16 oed ymhlith syniadau newydd Llywodraeth Cymru i wella iechyd pobol ifanc ac atal cyfraddau gordewdra rhag cynyddu yng Nghymru.

Yn ôl y Llywodraeth, mae’r cynnydd mewn cyfraddau yfed diodydd egni uchel mewn caffîn ymhlith pobol ifanc hefyd yn arwain at bryderon am yr effaith ar eu haddysg.

Bu Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn siarad gyda disgyblion ac athrawon yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd fel rhan o ymgynghoriad sy’n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, Mehefin 9).

Mae hi hefyd yn dweud ei bod hi eisiau clywed barn pobol ar gyfyngu ar yr hawl i hyrwyddo bwydydd braster uchel, siwgr neu halen, atal ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim ac ehangu’r arfer o gyhoeddi calorïau ar fwydlenni.

Daw hyn wrth i ffigyrau ddatgelu bod oddeutu 1.6m o oedolion yng Nghymru’n ordrwm, tra bod 655,000 yn ordew.

Yn y cyfamser, mae mwy nag un o bob pedwar o blant yng Nghymru yn ordrwm neu’n ordew pan maen nhw’n dechrau yn yr ysgol gynradd.

Yn ôl amcangyfrifon, mae gordewdra yn costio £6.1bn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol bob blwyddyn ar draws y Deyrnas Unedig.

‘Cefnogi’r genedl i fod yn iachach’

“Rydym eisiau clywed barn pobol am sut y gallwn gefnogi’r genedl i fod yn iachach a lleihau nifer y bobl sy’n ordew ne’n ordrwm,” meddai Lynne Neagle.

“Yn aml, mae bwydydd llawn siwgr neu fwydydd sy’n uchel mewn braster neu halen ar gael yn haws ac yn cael eu hyrwyddo’n ehangach, sy’n ei gwneud yn anoddach i bobl wneud y dewis iach.

“Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd i bobol, gyda chostau byw cynyddol uchel yn rhoi pwysau enfawr ar bobol yn ariannol.

“Fodd bynnag, gwyddom hefyd os bydd y tueddiadau gordewdra yn parhau, y bydd mwy o bobol yng Nghymru yn marw cyn eu hamser o ganser, clefyd y galon, clefyd yr afu a chlefyd siwgr math 2.

“Mae angen inni gael sgwrs agored a gonest am sut y gallwn newid ein dewisiadau a’n hymddygiadau yn sylweddol.

“Mae hyn yn cynnwys gwrthdroi materion arwyddocaol sydd wedi datblygu dros genedlaethau yn ein hamgylchedd bwyd.

“Rwy’n lansio’r ymgynghoriad heddiw i ddechrau’r sgwrs hon.”

‘Lefelau gordewdra wedi codi o dan Llafur’

Wrth ymateb, dywedodd James Evans AoS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd Meddwl: “Mae’n bwysig bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag cynhyrchion niweidiol, ond mae Llafur wedi bid yng ngofal iechyd yng Nghymru am 23 mlynedd ac mae lefelau gordewdra wedi parhau i godi er gwaethaf amrywiaeth o ymgynghoriadau a strategaethau.

“Dw i’n gobeithio y bydd yr un yma’n wahanol, ond bydd rhaid i ni edrych ar y manylion.”