Mae ‘Yma o Hyd’ wedi cyrraedd Rhif 1 yn siartiau iTunes.

Daw hyn ychydig ddyddiau wedi i dîm pêl-droed Cymru ei chanu ochr yn ochr â Dafydd Iwan yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae cefnogwyr Cymru wedi mabwysiadu’r gân fel eu hail anthem yn ddiweddar, ac fe gafodd Dafydd Iwan wahoddiad i’w pherfformio cyn y gêm dyngedfennol yn erbyn Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5).

Roedd y gân eiconig wedi bod yn mynd benben â ‘Running Up That Hill’ gan Kate Bush i gyrraedd y brig.

Mae’r gân hefyd wedi cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify hefyd, yr ail waith i hynny ddigwydd yn y Gymraeg.

Mae’r newyddion yn amlwg wedi cyffroi ambell un!

‘Tyfu hunaniaeth Gymreig’

Wrth siarad â Huw Stephens ar BBC Wales, dywedodd Dafydd Iwan fod canu gyda charfan Cymru ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Wcráin yn “brofiad anhygoel”.

Ychwanegodd fod tîm pêl-droed Cymru wedi bod ar daith o ddarganfod hunaniaeth Gymreig.

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a’r tîm cenedlaethol yn wych oherwydd mae wedi bod yn broses raddol o dyfu hunaniaeth Gymreig y tîm byth ers dyddiau Gary Speed,” meddai.

“Ac mae pobol fel Ian Gwyn Hughes wedi gweithio’n raddol ar hyn fel bod y tîm, dwi’n meddwl, wedi prynu i mewn i’r syniad yma eu bod nhw’n chwarae am fwy na’r crys, maen nhw’n chwarae dros Gymru.

“Mae mor braf clywed Gareth Bale yn dweud, “Mae’n deimlad mor wych i wneud hyn dros ein cenedl”.

“Ac mae’n wych eu bod nhw wedi dod i adnabod Cymru, y iaith, y diwylliant a’r hanes.

“Maen nhw wedi bod i lefydd fel Aberfan a bedd Hedd Wyn, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol.

“Maen nhw wedi cael gweld beth mae llawer o Gymru a hanes Cymru yn ei olygu, ac ‘Yma o Hyd’ wedi dod yn rhan o’r peth oherwydd hynny.”