Bydd y rheiny sy’n hoffi cwrw o’r gasgen a stêm yn godi gwydraid o glywed bod gŵyl gwrw boblogaidd sy’n helpu i roi twristiaeth ar y map yng ngogledd Cymru.

Mae gŵyl ‘Cwrw ar y Cledrau’, sy’n cael ei threfnu gan Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, yn dychwelyd ar ôl sawl blwyddyn o absenoldeb oherwydd y pandemig.

Mae’r ŵyl ‘Rail Ale’, fel mae hefyd yn cael ei hadnabod, yn ei hunfed blwyddyn ar bymtheg ac mae’n dychwelyd i Orsaf Dinas ger Caernarfon ddydd Gwener (Mehefin 10) a dydd Sadwrn (Mehefin 11).

Wedi’i dyfeisio’n wreiddiol gan Gymdeithas Rheilffordd Eryri a’i threfnu’n bennaf gan wirfoddolwyr, caiff yr ŵyl ei threfnu ar y cyd â’r cwmni rheilffordd.

Tra ei fod yn parhau’n “boblogaidd dros ben” gyda theuluoedd lleol, mae’r trefnwyr yn dweud bod y digwyddiad hefyd yn “hwb enfawr” i dwristiaeth a masnach yng Ngwynedd a Môn.

Arlwy’r ŵyl

Mae’r ŵyl yn cynnig ystod eang o gwrw o’r gasgen, cwrw a seidr o bob cwr o Gymru, a nifer ohonyn nhw o’r meicro-fragdai, ac maen nhw ar gael o’r sied yng Ngorsaf Dinas, sydd wedi’i throi’n ystafell tap.

Yn ogystal â’r sied, mae’n lleoliad cerddoriaeth byw a chymdeithasu, tra bod gwasanaethau arlwyo o amgylch yr orsaf hefyd.

Bydd trenau stêm a disel yn rhedeg yn ystod y digwyddiad, a bydd yna wasanaethau’n cysylltu â’r Harbwrfeistr ym Mhorthmadog.

Bydd trenau o Gaernarfon a Waunfawr ar gael hefyd, gan fod y rheilffordd yn cydweithio â thafarn a bragdy ‘Snowdonia Parc’ a gwersyll yn Waunfawr drwy gydol y digwyddiad.

O ran y gerddoriaeth eleni, bydd yr ŵyl yn croesawu Y Brodyr Magee, The Jones Band, Y Cyffro, yn ogystal â’r Moniars sy’n dathlu’r 30 mlynedd eleni.

Hir yw pob aros

“Dyma ni’r ŵyl yn dychwelyd ar ôl hir ymaros wedi’r pandemig,” meddai Elwyn Jones, cadeirydd pwyllgor trefnu’r ŵyl.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobol yn dod draw i gefnogi’r digwyddiad gwych hwn i’r teulu oll.

“Mae’n cynnig atyniad twristiaeth mawr i ogledd Cymru ac yn gweld pobol yn dod o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.

“Mae’r ymwelwyr hyn yn bwcio gwestai a gwely a brecwast, yn prynu prydau mewn bwytai lleol, yn prynu nwyddau mewn siopau, yn defnyddio’r tacsis, yn ogystal â gwario arian yn ein gŵyl ni, mae’r cyfan yn helpu’r economi leol gan roi hwb enfawr i’r ardal.

“Rydyn ni’n gwerthu cwrw o’r gasgen sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol ac yn cefnogi busnesau, yn ogystal â darparu lleoliad byw i rai o fandiau mwyaf poblogaidd yr ardal.

“Ond nid digwyddiad i dwristiaid yn unig mo hwn, bu’r ŵyl yn boblogaidd erioed efo teuluoedd yn yr ardal, ac mae nifer yn dychwelyd blwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Mae’n ddigwyddiad cyfeillgar, ac mae hen ffrindiau’n cyfarfod ac yn rhannu cwrw a chwerthin, ac yn gwylio neu’n mynd ar y trenau.

“Mae digon i’w weld a’i wneud.”

Gwahoddiad i gerddorion

Mae’r trefnwyr hefyd yn awyddus i unrhyw gerddorion sy’n dod i’r ŵyl chwarae’n rhad ac am ddim ar faes yr ŵyl.

Mae llefarydd hefyd wedi disgrifio’r digwyddiad fel “digwyddiad i wneud i chi deimlo’n dda efo dewis gwych o ddiodydd, bwyd blasus, adloniant lleol a chwmni da!”

Bydd rhai tocynnau ar gael wrth y drws, ond mae’r trefnwyr yn argymell bwcio ymlaen llaw.