Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn derbyn rhagor o geisiadau tan ddiwedd mis Mehefin ar gyfer eu Cynllun Cartrefi i Wcráin.
Daw cyhoedidad Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn dilyn llwyddiant y cynllun Uwch-Noddwyr, sydd wedi arwain at roi 2,000 o fisas hyd yn hyn.
Mae’r cynllun wedi’i ohirio am y tro er mwyn sicrhau bod pobol sy’n cyrraedd a’r rheiny sydd eisoes yng Nghymru’n parhau i dderbyn lefelau rhagorol o ofal a chefnogaeth, meddai’r Llywodraeth.
Bydd y cynllun yn cael ei oedi o ddydd Gwener (Mehefin 10), a bydd Llywodraeth Cymru a’u partneriaid yn manteisio ar y cyfle i ganolbwyntio ar gadarnhau’r trefniadau ar gyfer llety yn y cam nesaf a chyflwyno gwasanaethau ehangach ledled Cymru.
Cymru’n Genedl Noddfa
“O ddechrau’r gwrthdaro yn Wcráin, mae ein neges ni wedi bod yn glir – mae Cymru’n Genedl Noddfa ac yn barod i groesawu pobol sy’n ffoi rhag rhyfel,” meddai Jane Hutt.
“Wedi’i lansio ddiwedd mis Mawrth, rydyn ni wedi cael ymateb cadarnhaol iawn i’n llwybr Uwch-Noddwyr ar gyfer Cartrefi i Wcráin.
“Rydyn ni wedi gweld fisas yn cael eu rhoi ymhell y tu hwnt i’n hymrwymiad cychwynnol i groesawu 1000 o bobol.
“Bydd y saib dros dro hwn yn gyfle i ni fireinio’r trefniadau rydyn ni wedi’u rhoi ar waith i gefnogi pobol wrth iddyn nhw gyrraedd a sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, yn gallu parhau i ddarparu cefnogaeth o safon uchel.
“I fod yn glir, ni fydd y saib gweithredol hwn yn effeithio ar unrhyw geisiadau cyfredol a bydd pobol yn parhau i gyrraedd Cymru wrth i fisas gael eu dyfarnu ac wrth i drefniadau teithio gael eu cadarnhau.
“Mae lefel yr ymrwymiad i bobol Wcráin ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus a’r gymdeithas ehangach wedi bod yn wych.
“Rydw i eisiau talu teyrnged i bawb sy’n cyfrannu at ddull ‘Tîm Cymru’ o weithredu gyda’r argyfwng yn Wcráin.
“Mae’r cynllun hwn yn llwyddiant oherwydd yr holl unigolion, sefydliadau, busnesau, awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector.
“Fe allwn ni i gyd fod yn falch o’r ymdrech arwrol i gefnogi pobol Wcráin, gan ddangos yn glir bod Cymru wir yn Genedl Noddfa.”
‘Siomedig dros ben’
“Dw i’n siomedig dros ben fod y Llywodraeth Lafur wedi oedi eu cynllun Uwch-Noddwyr ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig groesawu’r cynllun hwn pan ddechreuodd e, gyda phobol yng Nghymru’n agor eu calonnau a’u cartrefi i’r rheiny oedd yn ffoi o Wcráin.
“Gyda’r sefyllfa mewn rhannau o Wcráin yn parhau i waethygu, mae hi o’r pwys mwyaf fod y cynllun hwn yn parhau.
“Dim ots sut maen nhw’n ei sbinio hi, methiant yw hyn.
“Cafodd y cynllun ei gyflwyno â chryn ffanfêr ym mis Ebrill, ac mae hi ond wedi cymryd wyth wythnos i weinidogion Llafur wneud tro pedol.
“Mae angen cefnogaeth ar ffoaduriaid o Wcráin, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld y cynllun yn ôl ar ei draed.”