Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi lambastio’r ffordd mae maes awyr Caerdydd wedi cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd.
Daw hyn wrth i ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddangos bod nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr wedi parhau i ostwng.
Fe brynodd Llywodraeth Cymru’r maes awyr yn 2013, ond ers hynny mae targedau ar niferoedd teithwyr wedi cael eu methu’n gyson.
Yn y cyfamser, mae £210m o arian trethdalwr wedi cael ei wario ar y maes awyr.
Dydy’r lefel yma o wariant ddim yn dderbyniol, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd hefyd yn dadlau bod bod yn berchen ar faes awyr a’i ariannu’n anghydnaws â nodau hinsawdd y Llywodraeth.
‘Colledion enfawr’
“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur amlinellu eu cynlluniau ar gyfer dod â hyn i ben ar frys gan ei fod eisoes wedi gwastraffu llawer gormod o arian y trethdalwr,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Mae bron i ddeng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru brynu’r maes awyr.
“Rhybuddiodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn erbyn y cynlluniau ac rydyn ni wedi cael ein profi yn gywir.
“Mae’r maes awyr yn parhau i wneud colledion enfawr ac erbyn hyn mae’n werth dim ond ffracsiwn o’i bris prynu.
“Dychmygwch pa wahaniaeth fyddai £210m o arian trethdalwyr wedi’i wneud ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru pe na bai wedi cael ei wastraffu ar y prosiect hwn?
“Mae’n werth sôn hefyd fod bod yn berchen ar faes awyr a’i sybsideiddio yn anghydnaws â nodau hinsawdd y Llywodraeth.
“Rydym wedi cael 10 mlynedd o hyn gan y Blaid Lafur, mae’n hen bryd i ni fynnu gwell gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn.”
‘Manteision economaidd’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru oherwydd y manteision a ddaw yn ei sgil i economi Cymru gyfan, gan gydnabod yr heriau y mae hyn yn eu creu i gyrraedd ein targedau ar ddatgarboneiddio.”