Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion a llefarydd y blaid yn San Steffan ar Godi’r Gwastad, yn galw am ddatganoli arian rhanbarthol.
Daw’r alwad ar ôl i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan fynegi pryderon bod “penderfyniadau’n cael eu gwneud heb ddigon o ystyriaeth i flaenoriaethau llywodraethau datganoledig”.
Tynnodd y pwyllgor sylw at y gwrthgyferbyniad fod “datblygiad economaidd wedi’i ddatganoli”, ond fod arian rhanbarthol yn cael ei weinyddu ledled y Deyrnas Unedig.
Maen nhw hefyd yn dweud nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig eto wedi eu “darbwyllo” nhw y bydd eu dulliau gweithredu’n “effeithiol wrth sicrhau bod blaenoriaethau’r llywodraethau datganoledig yn cael eu hystyried yn ddigonol”.
Cyflwynodd Ben Lake fesur yn San Steffan ym mis Mawrth yn galw am ddatganoli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Gymru ac am ganolbwyntio o’r newydd ar yr argyfwng costau byw.
Heddiw (dydd Mercher, Mehefin 8), mae’n dweud na allai’r “adroddiad gan y pwyllgor fod yn gliriach”, sef y “dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru”.
Mae e hefyd yn galw am ddyrannu arian yn ôl angen ac nid yn ôl buddiannau gwleidyddol San Steffan.
‘Mwy o frys nag erioed’
“Allai adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw ddim bod yn gliriach: pan ddaw i arian rhanbarthol, dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru,” meddai Ben Lake.
“Mae mwy o frys nag erioed fod Aelodau Seneddol ar draws y Tŷ yn cefnogi fy Mesur yn galw am ddatganoli arian ‘Codi’r Gwastad’ i Gymru.
“Fe wnaeth y Blaid Geidwadol addo yn 2019 y bydden nhw’n disodli arian rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd gyda rhaglen sy’n ‘decach ac wedi’i theilwra’n well i’n heconomi’.
“Mae’r adroddiad hwn yn profi bod eu strategaeth yn methu, ac yn rhoi Awdurdodau Lleol dan fwy fyth o anfantais yn y gwledydd datganoledig.
“Mae gweinidogion y Deyrnas Unedig yn dyfeisio’r meini prawf wrth iddyn nhw fynd ymlaen, ac yn methu â gwerthuso effeithiau grantiau a gafodd eu dyfarnu, hyd yn oed.
“Nid dyma’r ffordd i feithrin ffyniant economaidd.
“O’r cychwyn cyntaf, mae Plaid Cymru wedi galw am ddyrannu arian yn ôl angen, ac nid yn ôl buddiannau gwleidyddol San Steffan.
“Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gael unrhyw hygrededd o ran ‘codi’r gwastad’, yna bydden nhw o leiaf yn adolygu eu meini prawf fel bod Cymru’n cael digon o arian yn ôl ein hanghenion perthynol.”