Fydd hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ddim yn ailddechrau, ar ôl iddyn nhw gael eu hatal am ddwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.
Daw’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, ar ôl i weinidogion benderfynu y byddan nhw’n ystyried ffyrdd o fuddsoddi’r £2.9m fydd yn cael ei arbed i helpu i gyflwyno pecyn o fesurau i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd.
Roedd 77% o’r bobol oedd yn teithio ar y gwasanaeth awyr yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith, ond mae newidiadau o ran gweithio gartref bellach wedi newid trefniadau gweithio pobol, gyda mwy o bobol yn gweithio o bell ac ar-lein.
Band eang yng nghefn gwlad
Mae gweinidogion hefyd wedi cyhoeddi cyllid gwerth £4m er mwyn i Brifysgol Bangor gael arloesi ym maes technoleg sydd ar flaen y gad i ddatblygu gwell darpariaeth band eang mewn ardaloedd gwledig.
Mae Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol (DSP) y Brifysgol yn cael ei hariannu i ddod â chysylltiadau band eang 5G drwy geblau ffeibr optig i ardaloedd sy’n fwy anodd eu cyrraedd.
Mae’r brifysgol yn gweithio gyda chonsortiwm o gwmnïau i gynyddu’r capasiti a gwella gallu synhwyro ceblau ffeibr optig a gaiff eu defnyddio i ddarparu band eang symudol cyflymach a mwy dibynadwy.
Bydd hyn yn cael ei dreialu gyda mwy na 400 o adeiladau ar Ynys Môn nad oes ganddyn nhw fynediad at fand eang cyflym iawn.
‘Sbarduno newid enfawr i’r ffordd mae pobol yn gweithio’
“Mae’r pandemig wedi sbarduno newid enfawr i’r ffordd y mae pobol yn gweithio, gyda llai o deithio ar gyfer busnes dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth.
“Nid ydym yn credu y bydd lefelau teithwyr yn dychwelyd i lefel sy’n gwneud y gwasanaeth hwn yn hyfyw yn economaidd nac yn amgylcheddol.
“Yn hytrach, byddwn yn buddsoddi’r arian sy’n cael ei arbed o redeg y gwasanaeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd.
“Bydd hyn o fudd i fwy o bobol ac yn ein helpu i gyrraedd ein targed Sero Net erbyn 2050.”
Astudiaeth
Mae’r penderfyniad yn dilyn canlyniad astudiaeth annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i effaith carbon y gwasanaeth ar yr amgylchedd.
Dangosodd yr astudiaeth fod y gwasanaeth wedi cael effaith fwy negyddol ar yr amgylchedd nag unrhyw fath arall o deithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, oni bai ei fod yn hedfan yn agos at gapasiti llawn bob dydd, a fyddai, o ystyried y gostyngiad sylweddol mewn teithio ar gyfer busnes ers y pandemig, yn annhebygol iawn.
Dangosodd y dadansoddiad hefyd, er gwaethaf canfyddiadau cyffredin, nad y gwasanaeth awyr oedd y cyswllt cyflymaf bob amser â Chaerdydd o’r gogledd, yn enwedig i’r dwyrain o Fangor, lle mae teithio ar y rheilffyrdd mewn gwirionedd yn gyflymach, o ddrws i ddrws.
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cerbydau rheilffordd newydd, gyda Wi-Fi, mannau gwaith cyfforddus ac arlwyo ar y trên, yn golygu bod gwasanaeth rheilffordd Caergybi-Caerdydd bellach yn cynnig arlwy llawer mwy deniadol i’r rheini y mae dal angen iddynt deithio ar gyfer busnes rhwng y gogledd a’r de.
‘Llawer mwy i’w wneud o hyd’
Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn y newyddion ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 7), er bod Cymru ar y trywydd iawn o ran ein targedau hinsawdd, fod llawer mwy y mae angen ei wneud o hyd.
“Mae angen inni sicrhau mwy o ostyngiadau yn ein hallyriadau yn y degawd nesaf nag a gyflawnwyd gennym yn ystod y tri degawd diwethaf os ydym am osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Mae’n mynd i fod yn her aruthrol a bydd angen wynebu dewisiadau anodd,” meddai Lee Waters.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru sydd eisoes wedi dechrau edrych ar yr opsiynau i adeiladu cysylltiadau mwy effeithlon o ansawdd uchel ar draws y gogledd ac i mewn i’r gogledd. Yn ogystal â hynny, mae’r rhaglen Metro gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddi.
Mae gweinidogion wedi penderfynu defnyddio’r £2.9m o gyllid ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu’r gwaith ar gysylltedd rhwng y gogledd a’r de o fewn rhaglen Metro gogledd Cymru.
Mae hyn yn cynnwys cynnydd cyflymach ar Uwchgynllun Caergybi, Porth Bangor a Phorth Wrecsam, ochr yn ochr â gwaith tuag at ddatblygu gorsafoedd newydd ym Mrychdyn a Maes-glas.
Mae’r cynlluniau hefyd yn datblygu gwaith i wella amseroedd teithio a gwasanaeth ar y rheilffordd rhwng Caergybi a Chaerdydd a gwella integreiddio â dulliau teithio cynaliadwy eraill ar hyd y llwybr, er mwyn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar trên yr awr ar Brif Linell Reilffordd gogledd Cymru, a mynediad rheilffordd haws a chyflymach i dde Cymru.
Bydd y gwaith hefyd yn edrych ar opsiynau ar gyfer dyblu amlder y gwasanaeth bysiau rhwng Caernarfon a Phorthmadog, er mwyn gwella cysylltiadau â’r rheilffordd i’r de a’r canolbarth.
Mae’r prosiectau hyn yn gamau hanfodol ar y llwybr i sicrhau bod pobol yn gallu teithio’n haws ac yn gyflymach rhwng y gogledd a’r de, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Croesawu’r penderfyniad
Ymhlith y rhai sy’n croesawu’r penderfyniad mae Cyfeillion y Ddaear a Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Maen nhw, ill dau, wedi bod yn galw ers blynyddoedd am ddod â’r gwasanaeth i ben.
“Mae hwn yn gam ymlaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd sydd i’w groesawu’n fawr,” meddai Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear.
“Rydym yn gwybod yn union pa mor wael yw hedfan i’n planed ni, a byddai wedi bod yn wrthgyferbyniad enfawr i’w hymrwymiadau eraill ar newid hinsawdd pe bai Llywodraeth Cymru wedi penderfynu adnewyddu’r cytundeb hwn a pharhau i ariannu nifer fach o bobol yn mynd ar yr hediad byr hwn.
“Dyma’r penderfyniad hollol gywir, ac rydym yn croesawu’n gynnes y penderfyniad i fuddsoddi’r arian hwn mewn trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yng ngogledd Cymru.”
Mae Jane Dodds yn dweud bod yr arian yn “swm sylweddol i’w wario ar adeg pan fo’r pandemig wedi newid sut rydyn ni’n gweithio”.
“Mae angen i ni fod yn gwneud popeth allwn ni i atal y niwed rydyn ni’n ei achosi i’n planed,” meddai.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi rŵan mewn cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus lleol a chysylltedd digidol yng ngogledd-orllewin Cymru er mwyn sicrhau y gall cymunedau ffynnu.”