Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi cymharu Boris Johnson â chymeriad Monty Python.

Daw hyn wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig fynnu mai “megis dechrau” mae ei yrfa wleidyddol, ar ôl iddo ennill pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth ddydd Llun (Mehefin 6).

Pleidleisiodd 211 o’i 359 o Aelodau Seneddol bleidleisio i gadw’r Prif Weinidog wrth y llyw.

Fodd bynnag, mae’r ffaith fod 148 o Aelodau Ceidwadol wedi datgan diffyg hyder ynddo’n arwyddocaol ac yn dangos pa mor bell y mae stoc dyn sydd wedi cael ei ddisgrifio fel yr enillydd etholiadau gorau yn hanes y blaid, wedi gostwng.

Yr un peth sy’n gweithio o blaid Boris Johnson yw’r ffaith na fydd modd cynnal pleidlais hyder arall am flwyddyn gyfan, ac mae’r Prif Weinidog i’w weld yn hyderus mai fe fydd yn dal i arwain y blaid pan ddaw’r etholiad cyffredinol nesaf yn 2024.

‘Drwgdeimlad’

Wrth ofyn y cwestiwn cyntaf yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Mehefin 8), dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, y Fonesig Angela Eagle fod “digwyddiadau’r wythnos hon wedi dangos faint o ddrwgdeimlad sydd yna tuag at y prif weinidog hwn o fewn ei blaid ei hun”.

“Gyda sylw ei weinyddiaeth i gyd ar ffraeo mewnol yn hytrach na’r heriau rydym yn eu hwynebu, all y Prif Weinidog esbonio sut yn y byd y dylai’r wlad ymddiried ynddo os nad yw 148 o’i Aelodau Seneddol?”

“Gallaf sicrhau iddi, yn ystod gyrfa wleidyddol hir – sydd megis dechrau – rwyf wedi wynebu sawl gwrthwynebydd gwleidyddol,” meddai wrth ateb.

“Y rheswm mae pobol yn fy ngwrthwynebu nawr yw’r ffaith fod y Llywodraeth hon wedi gwneud pethau mawr iawn, pethau rhyfeddol, pethau doedden nhw ddim yn cytuno gyda nhw.

“Ac rwyf am iddi wybod fod dim byd o gwbl, gan ei chynnwys hi ei hun, yn mynd i’n stopio ni rhag gweithredu ar ran pobol Prydain.”

‘Dyw’r ffigyrau ddim yn dweud celwydd’

Yn y cyfamser, cymharodd Ian Blackford y prif weinidog â chymeriad y Black Knight yn y ffilm Monty Python and The Holy Grail.

Aeth yn ei flaen i’w gyhuddo o “fethu â chydnabod fod y partïon a gafodd eu cynnal yn Rhif 10 yn erbyn y gyfraith, mae hynny’n arwydd nad yw’r rheolau’n berthnasol iddo yn y ffordd y maen nhw i bawb arall”.

“Nid dyna ymddygiad rhywun sy’n gallu aros yn ei swydd, dyma ymddygiad rhywun sydd yn gadael ei swydd,” meddai.

“Wythnos ar ôl wythnos, rwyf wedi bod yn galw ar y prif weinidog i ymddiswyddo ac wedi wynebu wal o sŵn, mae’n troi allan fod 41% ohonyn nhw’n gweiddi gyda mi.

“Gadewch i ni fod yn glir, o leiaf dydy’r ffigyrau ddim yn dweud celwydd.

“Does gan 415 o’i Aelodau Seneddol ddim hyder ynddo, dydy 66% o’r holl Aelodau Seneddol ar draws y Tŷ ddim yn ei gefnogi, ac mae 97% o Aelodau’r Alban am weld Gweinidog yr Undeb yn mynd.

“Mae hwn yn brif weinidog sy’n llywodraethu dros blaid sydd ar chwâl a theyrnas ranedig.

“Sut y mae’r prif weinidog yn disgwyl gallu cario ymlaen?”