Mae arddangosfa sy’n darlunio effeithiau newid hinsawdd ar arfordiroedd bregus Cymru ac Iwerddon wedi agor yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Mae’r arddangosfa yn amlygu gwaith prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd), sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, yn dod ag archeolegwyr, daearyddwyr a daearegwyr ynghyd mewn astudiaeth drawsddisgyblaethol i edrych ar effeithiau newid hinsawdd, stormydd a thywydd eithafol ar dreftadaeth arfordirol a morol Cymru ac Iwerddon.

Mae gweithiau celf Dr Julian Ruddock, sy’n ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’i gyd-artist Pete Monaghan, yn cael eu dangos yn Oriel y Senedd.

Mae eu gwaith, sydd wedi datblygu ochr yn ochr â gwyddonwyr, yn cynrychioli ymatebion gweledol yr artistiaid i, a dehongliadau o, ganfyddiadau gwyddonol y prosiect CHERISH.

“Mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych i ni dynnu sylw at bwysigrwydd ein gwaith yma yn Aberystwyth ynghyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru,” meddai’r Athro Sarah Davies, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

“Mae ein gwaith gyda phartneriaid yn Iwerddon a chymunedau arfordirol i ymchwilio i effeithiau hirdymor newid hinsawdd ac amgylcheddol yn cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o’r tirweddau arfordirol deinamig hyn a graddfa’r newid yn y safleoedd treftadaeth arfordirol hyn.

“Diolch yn fawr iawn i Julian a Pete am eu cyfraniadau gwych a fydd yn dod â’r canfyddiadau hyn i gynulleidfa newydd.”

Pwysigrwydd diogelu safleoedd treftadaeth

“Roedd yn bleser mynychu agoriad yr arddangosfa,” meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, oedd wedi agor yr arddangosfa’n swyddogol.

“Mae’n hynod o bwysig bod safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu.

“Mae’r prosiect pwysig hwn yn dod â Chymru ac Iwerddon at ei gilydd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau ry’n ni’n eu hwynebu mewn perthynas â newidiadau hinsawdd ac amgylcheddol yn ein hardaloedd arfordirol.”

Mae’r arddangosfa celf-gwyddoniaeth, sy’n ffrwyth gwaith y cydweithio, yn cynnwys paentiadau, acrylig/collage ar baneli pren, ac ailddehongliadau o ddelweddau sy’n deillio o wyddoniaeth gan ddefnyddio ffotograffiaeth ddigidol a fideo.

“Mae’r darnau yn yr arddangosfa’n trin a thrafod y dirwedd arfordirol hynod a’r safleoedd a gafodd eu harchwilio gan CHERISH,” meddai Dr Julian Ruddock.

“Mae rhai darnau yn ailddehongli awyrluniau sy’n datgelu newid yn y tirweddau dros amser.

“Mae eraill yn cynnig ymateb artistig i brofiadau uniongyrchol a goddrychol o leoedd, tywydd a’r amgylchedd.

“Wedi’u lleoli o fewn cyd-destun brys hinsawdd sy’n newid, mae’r gweithiau celf yn ystyried perthnasedd yr arfordir yn ein gorffennol cyfunol, ac yn codi ymwybyddiaeth o harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol y safleoedd preswyl hynafol hyn sy’n cael eu colli’n gyflym i’r môr.”

Mae CHERISH yn brosiect chwe blynedd rhwng Cymru ac Iwerddon sy’n cynnwys Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth sy’n gweithio ochr yn ochr â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru; y Rhaglen Darganfod, Iwerddon; ac Arolwg Daearegol Iwerddon.