Mae llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn gyfle i “weddnewid cymunedau ac adeiladu’r genedl”, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Curodd dynion Rob Page Wcráin o gôl i ddim yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul (Mehefin 5), gan sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae cyrraedd Cwpan y Byd werth £3m i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, arian yr hoffai Adam Price ei weld yn cael ei fuddsoddi ar lawr gwlad.

Wrth siarad yn y Senedd, talodd Adam Price deyrnged i’r Gymdeithas, gan ddweud eu bod yn fudiad “modern, dwyieithog, gwrth-hiliol, creadigol a chynhwysol”.

“Mae pêl-droed wedi rhoi cyfle anhygoel i Gymru, ac yn union fel y cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu cyfarfod cyntaf am 9pm ddydd Sul i ddechrau cynllunio ar gyfer Cwpan y Byd, felly y dylai Llywodraeth Cymru ddangos yr un ymrwymiad ar y lefel genedlaethol i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn,” meddai.

“Mae potensial enfawr yma hefyd i ysbrydoli, cysylltu pobol, newid bywydau, trawsnewid cymunedau, adeiladu’r genedl.

“Ond mae’n rhaid i ni fuddsoddi i wneud y gorau o hynny.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y seilwaith corfforol, yn seilwaith cymdeithasol clybiau fel y gallwn sicrhau bod y Cwpan Byd hwn yn gadael etifeddiaeth, nid yn unig yn Qatar ond hefyd ym mhob cymuned yng Nghymru, ac am genedlaethau i ddod.”

‘Manteisio i’r eithaf’

Yn ôl Mark Drakeford, mae cynlluniau ar y gweill eisoes i fuddsoddi mewn pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru.

“Wrth i mi eistedd gyda’r Prif Weithredwr (Noel Mooney) yn ystod y gêm, roeddwn yn eistedd gyda dyn oedd â siec gwerth £3m yn dibynnu ar y gêm,” meddai’r prif weinidog wrth ateb Adam Price.

“Roedd yn gwybod pe bai Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, yna byddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn derbyn £3 miliwn.

“Dywedodd wrthyf i ei fod yn benderfynol y byddai £2m o’r arian yna yn cael ei fuddsoddi mewn pêl-droed ar lawr gwlad a chyfleusterau ar lawr gwlad yma yng Nghymru.

“Roedd yn hollol glir mai’r hyn sydd bwysicaf i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw bod y gêm yn fyw ac yn iach ar lawr gwlad.

“Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, wedi buddsoddi £24m mewn cyfleusterau ar lawr gwlad yng Nghymru’n ddiweddar.

“Dw i’n cytuno’n llwyr gydag Adam Price mai’r hyn yr ydym yn gobeithio ei gael o’r math o sylw ac amlygiad y bydd Cwpan y Byd yn ei roi yw ysbrydoliaeth i bobol ifanc i fod allan yno’n chwarae pêl-droed eu hunain, neu gymryd rhan ym mha bynnag gamp y maent yn angerddol amdani, a bydd Llywodraeth Cymru yno’n ceisio sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hynny.”