Doedd 68 gan y capten David Lloyd a thair wiced Dan Douthwaite ddim yn ddigon i achub tîm criced Morgannwg, wrth iddyn nhw golli eu gêm ugain pelawd yn erbyn Swydd Gaerloyw yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd o bum wiced.

Yn hytrach, tarodd Swydd Gaerloyw yn ôl gyda chyfraniadau o 63 gan James Bracey, 40 gan Glenn Phillips a 31 gan Miles Hammond i gipio’r fuddugoliaeth yn ddigon cyfforddus ar noson rwystredig yn sgil y glaw.

Manylion

Dechreuodd Lloyd a Sam Northeast yn ddigon pwyllog ym mhelawdau agoriadol y cyfnod clatsio, cyn cyflymu’r gyfradd fel eu bod nhw’n cyrraedd 49 heb golli wiced wrth i’r cyfyngiadau maesu gael eu llacio.

Erbyn hynny, roedd Lloyd wedi taro pum pedwar a Northeast wedi colbio un chwech wrth i’r ymwelwyr amrywio’r bowlio, gan amnewid rhwng bowlwyr cyflym llaw dde a chwith a’r troellwr achlysurol Glenn Phillips, ond roedd eu hymdrechion yn ofer wrth i’r agorwyr ddechrau edrych yn gyfforddus wrth y llain.

Cyrhaeddodd Lloyd ei hanner canred cyntaf yn y gystadleuaeth, yn niwedd yr wythfed pelawd a hynny oddi ar 31 o belenni ar ôl taro saith pedwar ac un chwech, ond bu bron i Northeast roi daliad i Miles Hammond oedd yn maesu’n syth ar ochr y goes oddi ar fowlio’r troellwr coes Jack Taylor.

Wnaeth e ddim para’n hir wedyn, serch hynny, wrth gael ei fowlio gan Benny Howell am 24 ar ddechrau’r unfed belawd ar ddeg, a Morgannwg yn 90 am un wrth i Colin Ingram ddod i’r llain am y tro cyntaf y tymor hwn a tharo’i belen gyntaf am bedwar.

Ond collodd Morgannwg wyth wiced am 53 rhediad wedyn i wastraffu’r dechrau da, a gorffen gyda sgôr oedd dipyn yn is nag y dylai fod wedi bod.

Rhoddodd Lloyd ddaliad syml i’r bowliwr Benny Howell am 68, ac yntau wedi wynebu 43 pelen a tharo deg pedwar ac un chwech.

Roedden nhw’n 111 am dair o fewn dim o dro, wrth i fatiad cyntaf Colin Ingram ar dir Cymru eleni ddod i ben ag ergyd syth i lawr corn gwddw Ian Cockbain oddi ar fowlio Phillips am ddeg.

Cipiodd Tom Smith wiced Chris Cooke yn niwedd yr unfed belawd ar bymtheg, wrth i’r troellwr llaw chwith ddal y batiwr oddi ar ei fowlio’i hun ac roedd Morgannwg wedi colli’r momentwm oedd ganddyn nhw ar ddechrau’r batiad.

Gyda Dan Douthwaite wedi’i fowlio gan Payne a Kiran Carlson wedi tynnu at Miles Hammond oddi ar Phillips, roedd Morgannwg yn 136 am chwech.

Roedden nhw’n 152 am saith yn niwedd y belawd olaf ond un pan gafodd James Weighell ei fowlio gan Payne am chwech, ac yn 154 am wyth gydag Eddie Byrom wedi’i ddal gan Howell oddi ar fowlio Ryan Higgins am 12.

Yr ymwelwyr yn cwrso

Ar ôl egwyl ychydig yn hirach, dechreuodd Swydd Gaerloyw gwrso 159 ar ôl i gawod o law ddod i ben heb darfu ar y nod na nifer y pelawdau.

Dechreuodd Hammond yn gryf gan dynnu Michael Hogan am chwech oddi ar bedwaredd pelen y batiad, a doedd hi ddim yn hir cyn i’r ymwelwyr ddechrau sgorio ar y gyfradd angenrheidiol, gyda James Bracey yn cefnogi ei bartner ben draw’r llain.

Goroesodd Hammond gyfleoedd i’w ddal ar 16 oddi ar fowlio James Harris ac ar 20 oddi ar fowlio James Weighell, ac erbyn diwedd y cyfnod clatsio hesb i Forgannwg, roedd Swydd Gaerloyw’n 54 heb golli wiced.

Daeth tro ar fyd yn y seithfed pelawd, serch hynny, wrth i Hammond gael ei ddal gan Eddie Byrom oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 31, a’r ymwelwyr yn 58 am un.

Ac roedden nhw’n 71 am ddwy yn niwedd yr wythfed pelawd, wrth i Ian Cockbain gael ei ddal gan Prem Sisodiya, y troellwr llaw chwith, oddi ar ei fowlio’i hun am ddeg, cyn cyrraedd 77 am ddwy erbyn hanner ffordd drwy’r batiad – 12 rhediad y tu ôl i Forgannwg ar yr un adeg ac wedi colli dwy wiced yn fwy.

Daeth cawod o law eto i dynnu’r chwaraewyr oddi ar y cae am rai munudau, gyda Swydd Gaerloyw ar y blaen i’r gyfradd angenrheidiol ar y pryd, yn 100 am ddwy yn y drydedd pelawd ar ddeg.

Yn fuan wedi’r egwyl, cyrhaeddodd Bracey ei hanner canred oddi ar 40 o belenni ac erbyn hynny, roedd ei dîm ymhell ar y blaen i’r nod a fyddai wedi cael ei haddasu o dan Ddull Duckworth-Lewis pe bai’r glaw yn dod eto.

Gyda’r fuddugoliaeth ar y gorwel, dechreuodd yr ymwelyr glatsio unwaith eto, ac fe gollon nhw ddwy wiced mewn dwy belen, gyda Dan Douthwaite yn gwaredu Glenn Phillips, wedi’i ddal yn wych ag un llaw gan Hogan ar y ffin, cyn i Ryan Higgins gael ei ddal gan y wicedwr Cooke i adael Swydd Gaerloyw’n 147 am bedair gyda thair pelawd yn weddill.

O fewn dim o dro, roedden nhw’n 151 am bump ar ôl 17.4 pelawd, gyda Bracey wedi’i ddal gan Kiran Carlson oddi ar fowlio Hogan am 63, gyda’r rhod yn dechrau troi i Forgannwg, er ychydig yn rhy hwyr wrth i’r ymwelwyr gyrraedd y nod a chipio buddugoliaeth o bum wiced gyda phelawd yn weddill.

’15 i 20 rhediad yn brin’

“Dw i’n meddwl ein bod ni fwy na thebyg 15 i 20 rhediad yn brin,” meddai’r capten David Lloyd.

“Ddaru ni ddechrau’n dda, ond roedd o’n eithaf anodd pan ddaeth y batwyr newydd i mewn fel bod angen i un ohonon ni fynd yn ddwfn ac yn anffodus, ddaru ni ddim gwneud hynny.

“Teimlais i’n dda ym mhob gêm hyd yn hyn, ond dydi o ddim wir wedi gweithio, ond dyna i chi griced T20 am wn i.

“Y peth ydi ein bod ni wedi dod mor agos bob gêm, dydan ni jyst ddim wedi rhoi’r perfformiad perffaith yna fel tîm, felly wrth symud ymlaen byddwn ni’n ceisio gwneud hynny.”