Mae Clwb Criced Morgannwg yn cydweithio ag ap newydd Picturepath i wella profiadau cefnogwyr sydd ag awtistiaeth wrth fynd i gemau.

Cafodd Picturepath ei ddylunio er mwyn helpu pobol ag awtistiaeth a gorbryder i gynllunio’u gweithgareddau o ddydd i ddydd ac mae’r ap yn cynnwys canllawiau i ymwelwyr ar gyfer lleoliadau sy’n bartneriaid – yn eu plith mae Gerddi Sophia, cartref Clwb Criced Morgannwg yng Nghaerdydd.

Morgannwg yw’r clwb criced sirol cyntaf i ymuno â’r ap.

Nod yr ap yw helpu pobol sy’n wynebu straen oherwydd awtistiaeth neu orbryder i fynd i mewn i amgylchfyd sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar eu synhwyrau, gan leihau’r straen drwy weld, cynllunio a pharatoi ymlaen llaw ar gyfer pob cam o’u hymweliad fel eu bod nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl.

Ymhlith y rhwystrau mewn gemau chwaraeon i bobol sydd ag awtistiaeth neu orbryder mae sŵn y dorf, llifoleuadau llachar a synnau a golygfeydd eraill mae pobol heb awtistiaeth neu orbryder yn eu cymryd yn ganiataol.

Ond mae mwy a mwy o glybiau, gan gynnwys Morgannwg, yn ceisio cynyddu’r ffyrdd y gall pawb gymryd rhan a mwynhau gemau er mwyn gwella’u profiadau wrth ymweld â stadiymau a caeau chwarae.

Yn rhan o hynny, mae’r ap yn dangos delweddau o bob lleoliad, gan gynnwys cyfleusterau parcio a thrafnidiaeth gyhoeddus, mynedfeydd, golygfeydd o wahanol seddi, toiledau, cyfleusterau arlwyo a ffyrdd o symud o amgylch y stadiwm neu’r cae.

‘Llai o straen, mwy o gynhwysiant’

“Rydym wrth ein boddau o gael bod yn bartner i Forgannwg i alluogi ymwelwyr â Gerddi Sophia i gynllunio eu diwrnod gan ddefnyddio canllawiau ymwelwyr Picturepath,” meddai Richard Nurse, sylfaenydd y cwmni.

“Fel tad i fachgen sy’n dwlu ar griced, dw i’n gwybod gymaint o fwynhad sydd i’w gael o ddod â phlant i wylio criced, ond hefyd fod yr amgylchfyd anarferol a’r holl olygfeydd a synnau’n gallu achosi aflonyddwch, yn enwedig i gefnogwyr awtistig neu bryderus.

“Morgannwg yw’r tîm cyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd i greu’r canllawiau ymwelwyr hyn ac mae’n hyfryd gweld eu bod nhw wedi ymrwymo i lai o straen ar ymweliadau, mwy o gynhwysiant ac i wella’r profiad i bawb sy’n caru criced.”

Yn ôl Dan Cherry, Pennaeth Gweithrediadau Clwb Criced Morgannwg, maen nhw “bob amser yn edrych am ffyrdd o wella profiadau cwsmeriaid a gwneud eu hymweliadau â Gerddi Sophia’n gofiadwy”.

“Mae ap Picturepath yn gwneud hyn, ac mae hefyd yn chwalu’r rhwystrau i gefnogwyr awtistig neu bryderus, ac fe fydd yn ein helpu ni i ddod yn fwy cynhwysol a chroesawgar i bob cefnogwr,” meddai.