5% yn unig o’r holl docynnau ar gyfer gemau tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni fydd ar gael i gefnogwyr yng Nghymru.
Bydd tîm Rob Page yn herio Lloegr, Iran a’r Unol Daleithiau yng Ngrŵp B, gyda’u holl gemau’n cael eu cynnal yn Stadiwm Ahmad bin Ali, sy’n dal 50,000 o bobol.
Ond gyda 5% o’r tocynnau’n mynd i’r Wal Goch, dim ond 2,000 i 2,500 o Gymry fydd yn cael mynd.
Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae trefniadau ar y gweill i geisio sicrhau mwy o docynnau i gefnogwyr sy’n bwriadu teithio i’r gystadleuaeth ar ddiwedd y flwyddyn.
Ond maen nhw dan anfantais fel y tîm olaf i gymhwyso, a hynny drwy’r gemau ail gyfle ar ôl curo Wcráin o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul (Mehefin 5).
Mae ganddyn nhw bum mis yn unig i ddatrys y sefyllfa cyn i dîm Rob Page herio’r Unol Daleithiau yn y gêm agoriadol ar Dachwedd 21.
Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wrth Radio Wales y byddan nhw’n “cydweithio â FIFA… i geisio cael cynifer o docynnau ag y gallwn ni i’n cefnogwyr”.
Ond gyda 25,000 o gefnogwyr yn rhan o’r Wal Goch, mae’n cyfaddef fod ganddyn nhw “gryn frwydr” o’u blaenau i blesio pawb.
Mae’n dweud ei fod yn gobeithio cyhoeddi’n ddiweddarach yr wythnos hon sut fydd cefnogwyr yn gallu sicrhau eu tocynnau.