Mae statws Cymru fel gwlad yn unigryw ymhlith y 32 o wledydd sydd wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni, yn ôl T. James Jones.

Mewn sylw ar Twitter, dywedodd y cyn-Archdderwydd Jim Parc Nest mai “Cymru fydd yr unig genedl heb hunanlywodraeth yn Qatar”, a’i bod hi’n “bryd iddi fynnu’r un hawliau ag y mae Wcráin yn brwydro mor ddewr i’w cadw”.

“Mae 195 o wledydd swyddogol yn y byd, mae’n debyg, a dyw Cymru ddim yn eu plith nhw oherwydd bod hi heb ei hunanlywodraeth,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna 32 tîm yn mynd i fod yn Qatar, a bydd Cymru’n unigryw yn eu plith nhw oherwydd hi fydd yr unig un sydd heb fod ar restr swyddogol gwledydd y byd gan ei bod hi heb hunanlywodraeth.

“Mae’n eironig y bydd y byd yn clywed, yn yr anthem genedlaethol, ‘Gwlad! Gwlad!’ yn cael ei chanu mwy nag unwaith yn ystod y gemau, a dyw hi ddim yn swyddogol yn wlad!

“Mae’r peth yn hyfryd bod Cymru, er gwaetha’r holl wrthwynebiad sydd wedi bod iddi gael bod yn wlad, bod hi wedi ennill ei lle ymhlith gwledydd y byd.”

Dafydd Iwan a’r Jiwbilî

Yng nghanol holl ddathliadau Jiwbilî Platinwm Brenhines Lloegr, roedd yr awyrgylch yng Nghaerdydd ar ôl i Gymru guro Wcráin o 1-0 i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 yn gwbl wahanol.

Ymhell o’r Prydeindod, roedd Stadiwm Dinas Caerdydd yn ddathliad o Gymreictod a neb llai na Dafydd Iwan yn ei chanol hi, yn morio canu Yma O Hyd cyn ac ar ôl y gêm.

Ond yn ôl T. James Jones, doedd rhai ddim yn sylweddoli eironi’r cyferbyniad llwyr.

“Ro’n i’n meddwl bod ymateb David TC Davies, Aelod Seneddol Mynwy, yn ddiddorol iawn,” meddai.

“Pan ofynnwyd iddo fe am ei ymateb i ganlyniad y gêm yng Nghaerdydd, “Ardderchog!” dywedodd e. “Mae e’n glo perffaith i ddathliadau’r Jiwbilî!”

“Doedd e ddim yn sylweddoli, druan, mor eironig oedd y sylw yna, wrth ddathlu’r Frenhiniaeth sydd wedi bod yn dweud celwydd am Gymru ar hyd y blynyddoedd ac yn honni bod y mab hynaf yn Dywysog Cymru.

“A’r eironi arall, wrth gwrs, yw yr un sydd wedi bod yn seren heblaw’r chwaraewyr eu hunain, seren arall sydd wedi bod ynglŷn â’r holl fusnes yw Dafydd Iwan. A hwnnw oedd yn sôn am Carlo yn ystod yr Arwisgo.

“Mae’r gân [Yma O Hyd] yn aruthrol. Mae hi’n llawn symboliaeth. Ry’n ni yma er gwaetha’ popeth, er gwaethaf holl ymdrechion pobol i’n cadw ni rhag bod yn wlad. Mae’n addas iawn, iawn bod y gân yma wedi dod yn amlwg.”

Cymru ar lwyfan y byd

Cymru'n dathlu Cwpan y Byd
Cymru’n dathlu cyrraedd Cwpan y Byd

Bydd Cwpan y Byd yn Qatar yn gyfle euraid i roi Cymru ar fap y byd, gyda biliynau o bobol yn gwylio’r gystadleuaeth ym mhedwar ban.

Ac yn ôl T. James Jones, bydd holl symbolau Cymru’n datgan ein bod ni’n sicr yma o hyd.

“Y Ddraig Goch a’r geiriau ‘Gwlad! Gwlad!’ yn cael eu clywed,” meddai.

“A hefyd, mae rhaid llongyfarch Cymdeithas Bêl-droed Cymru am roi amlygrwydd i’r iaith yn yr holl fusnes yma.

“Dwi’n credu bod y ffaith fod y Gymraeg wedi cael cymaint o sylw hefyd wedi bod yn help i’r chwaraewyr. Maen nhw wedi cydnabod hynny eu hunain erbyn hyn.”

Ond beth am yr awgrym gan un wnaeth ymateb i’w neges ar Twitter nad oes lle i wleidyddiaeth – boed yn wleidyddiaeth ddaearyddol neu’n wleidyddiaeth ieithyddol – yn y byd chwaraeon?

“Mae gwleidyddiaeth yn rhan o fywyd yn llwyr,” meddai.

“Alli di ddim cau gwleidyddiaeth ma’s.

“Hynny yw, mae’n anochel bod gwleidyddiaeth yn cael bod yn rhan o’r ddadl drwy’r amser.

“Dyna sy’n ein cadw ni’n wlad.”

Cymru, eu gobeithion a hawliau dynol Qatar

Mae’n sicr yn anochel y bydd gwleidyddiaeth yn cael sylw’r byd adeg Cwpan y Byd, yn sgil record Qatar ym maes hawliau dynol.

Ac yn ôl T. James Jones, mae helynt cynnal Cwpan y Byd yn y wlad yn “ddeilema ar ryw olwg”.

“Mae cymaint o gamdrin yn digwydd yn sgil polisïau Qatar yn eu gwlad eu hunain,” meddai.

“Ond gobeithio y bydd Qatar yn dysgu o ymweliadau gwledydd sydd yn iachach ynglŷn ag iawnderau dynol.”

Beth am obeithion Cymru ar y cae, felly? Yn nwylo’r to iau mae rheiny, meddai.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y sêr sydd wedi bod gyda ni.

“Efallai bod rhai o’r sêr hynny’n raddol diflannu nawr, yn gwanhau, ond mae sêr ifainc newydd yn codi achos chwaraewyr gorau’r gêm oedd rhai o’r ifancaf yn y tîm, fel Neco Williams.

“Wrth gwrs, mae Brennan Johnson wedyn yn dod yn seren.

“Mae’r to ifanc yma’n sicr yn rhoi dyfodol disglair i’r tîm.”

Gareth Bale yn dathlu'r gôl fawr

Cymru’n mynd i Gwpan y Byd!

Tîm Rob Page wedi curo Wcráin o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd