Bydd tîm pêl-droed Cymru’n chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, ar ôl curo Wcráin o 1-0 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Daeth unig gôl y gêm oddi ar gic rydd Gareth Bale, gydag Andriy Yarmolenko yn gwyro’r bêl i’w rwyd ei hun ar ôl 33 munud.

Byddai Cymru wedi teimlo’n hyderus ar yr egwyl, ac fe ddaethon nhw allan yn gryf ar ddechrau’r ail hanner, gyda’r blaenwyr yn cyfuno i greu cyfle i Aaron Ramsey wrth ruthro ymlaen tua’r cwrt cosbi, ond aeth y bêl i’r cyfeiriad anghywir a heibio’r postyn.

Daeth cyfle i’r ymwelwyr ar ôl 54 munud drwy Yarmolenko wrth iddo geisio gwneud yn iawn am y gôl yn gynharach, ond heibio’r postyn aeth y bêl unwaith eto.

Cyfunodd Ramsey a Dan James toc ar ôl awr, ond aeth ergyd James dros y trawst.

Cafodd Cymru ail wynt wrth i Brennan Johnson ddod i’r cae, a hwnnw’n taro’r postyn cyn creu hanner cyfle i Bale yn yr un symudiad.

Ond fydd Cymru ddim yn poeni am golli cyfleoedd, oherwydd fe wnaethon nhw fanteisio ar y cyfle mwyaf un, gan sicrhau eu lle ar yr awyren i Qatar.