Mae Rob Page wedi talu teyrnged i Gary Speed, ar ôl i dîm pêl-droed Cymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Fe guron nhw Wcráin o 1-0 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Sul, Mehefin 5) i sicrhau eu lle ar yr awyren i Qatar, lle byddan nhw’n herio Lloegr, Iran a’r Unol Daleithiau yng Ngrŵp B.
Cafwyd hyd i Gary Speed yn farw yn ei gartref yn 2011 ac yn y cyfnod ers ei farwolaeth, mae Cymru wedi chwarae yn yr Ewros yn 2016 o dan Chris Coleman, ac o dan Page ei hun yn 2020 (a gafodd ei chynnal yn 2021) a bellach wedi cymhwyso am eu hail Gwpan Byd.
Yn ôl Rob Page, fe ddechreuodd y cyfan gyda Gary Speed, sy’n cael ei gydnabod fel y dyn a drawsnewidiodd bêl-droed ryngwladol yng Nghymru.
“Dywedais i yn ystod y paratoadau, dechreuodd Gary Speed hyn 12 neu 13 o flynyddoedd yn ôl,” meddai Page, sydd â’i gytundeb presennol yn rhedeg tan ddiwedd ymgyrch Cwpan y Byd.
“Hoffwn dalu teyrnged i Gary Speed.
“Fe ddechreuodd e’r diwylliant 12 mlynedd yn ôl.
“Roedd yna wahaniaeth, roedd yna newid.
“Newidiodd yr amgylchfyd yn llwyr.
“Dw i wedi etifeddu hynny, fe wnaeth Chris Coleman ei dderbyn e a mynd ag e i lefel arall, a dw i wedi etifeddu’r grŵp hwnnw.”
Hyder nid gobaith
Yn ôl Rob Page, hyderu nid gobeithio mae Cymru erbyn hyn y byddan nhw’n cymhwyso ar gyfer cystadlaethau mawr.
“Rydyn ni’n hyderus yn mynd i mewn i gemau nawr,” meddai.
“Dydyn ni ddim yn gobeithio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd na’r Ewros nawr, ond yn credu y gallwn ni, felly fe fu newid enfawr o ran meddylfryd hefyd.”
Mae’n cyfaddef iddo orfod gwneud “penderfyniad anodd” wrth ddewis y tîm hefyd, gan hepgor Harry Wilson a Brennan Johnson, ac mae’n fodlon ei fyd fod yr 11 cywir ar y cae.
Ond fe fydd yr holl chwaraewyr yn ceisio sicrhau pen tost i’r rheolwr cyn hedfan i Qatar.
“Mae’n galonogol, mae’n dda,” meddai.
“Rydyn ni’n symud i’r cyfeiriad cywir.
“Mae angen i ni barhau i feithrin y chwaraewyr ifanc hyn fel rydyn ni wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, a dim ond gwella fydd pethau i ni.”