Ar ddiwrnod mawr a allai benderfynu dyfodol Boris Johnson yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac wrth iddo wynebu pleidlais bosib o ddiffyg hyder, mae golwg360 yn deall bod Boris Johnson wedi cydymdeimlo â Volodymyr Zelensky ac Wcráin yn dilyn buddugoliaeth tîm pêl-droed Cymru yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sul, Mehefin 6).

Bydd Cymru a Lloegr yn herio’i gilydd yn Qatar yn ddiweddarach eleni, ar ôl i dîm Rob Page sicrhau lle Cymru yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1958.

Roedd Boris Johnson wedi bod dan y lach yn gynharach eleni am awgrymu y dylai Wcráin fod wedi cael lle awtomatig yng Nghwpan y Byd, a hynny ar draul yr Alban, eu gwrthwynebwyr yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle, a Chymru.

Cynhaliodd Johnson a Zelensky gyfarfod 40 munud dros y ffôn fore heddiw (dydd Llun, Mehefin 6), fel maen nhw’n arfer ei wneud bob deuddydd neu dridiau i drafod arfau a’r rhyfel.

“Llongyfarchiadau i Gareth Bale a gweddill carfan Cymru wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA yn Qatar,” meddai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar Twitter.

“Gwych gweld dwy o genhedloedd y Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth. Da iawn Cymru!”

‘Mae’n ddrwg gen i’

Wrth i’r sgwrs ffôn ddirwyn i ben, fe wnaeth y ddau arweinydd droi eu sylw at bêl-droed a chanlyniad y gêm fawr neithiwr, yn ôl ffynhonnell.

“Mae’n ddrwg gen i fod Cymru wedi gwneud cystal neithiwr, doedd gen i ddim rheolaeth dros hynny,” meddai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

“Peidiwch â phoeni, gêm yw hi, mae hynny’n naturiol,” meddai Zelensky wrth ymateb, cyn gofyn i Boris Johnson am ei ddoniau pêl-droed ei hun.

“Dw i’n chwaraewr pêl-droed sâl iawn,” meddai hwnnw wedyn.