Mae undeb PCS, sy’n cynrychioli staff Chwaraeon Cymru, wedi mynegi pryderon am y posibilrwydd o breifateiddio Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai ger Caernarfon – pryderon sy’n cael eu rhannu gan Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon.
Mae’r ganolfan yn cynnig ystod eang o gyrsiau, gweithgareddau a gwersi unigol mewn campau dŵr megis hwylio, a gwyntsyrffio, yn ogystal â beicio mynydd, ac mae wedi’i rhedeg fel corff noddedig gan Lywodraeth Cymru.
Ond mae proses dendr ar y gweill i ddod o hyd i bartner datblygu i’r ganolfan, a fyddai’n gyfrifol am ei rheoli a chyflogi staff, ac mae pryderon ynghylch effaith hyn ar weithwyr a gwasanaethau’r ganolfan.
“Mae gan ein haelodau ym Mhlas Menai gryn sgiliau ac maen nhw’n hollol ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus o safon,” meddai Darren Williams, Swyddog Cenedlaethol Cymru PCS.
“Maen nhw’n fwy na bodlon i Chwaraeon Cymru ddod o hyd i ffyrdd o wella’r ganolfan a hyd yn oed i wneud defnydd o arbenigedd allanol wrth wneud hynny.
“Ond dydyn nhw ddim eisiau i’r cyfleuster unigryw hwn – a’u swyddi eu hunain – gael eu rhoi i ddarparwr newydd, a allai roi elw o flaen unrhyw ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac arferion cyflogaeth deg.
“Fel undeb, dydyn ni ddim yn fodlon gweld ein haelodau’n wynebu dyfodol ansicr ac ansefydlog.”
‘Yn erbyn buddiannau defnyddwyr lleol’
“Dw i wedi codi pryderon am y newidiadau arfaethedig ym Mhlas Menai gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac yn galw arni i atal y broses bresennol a allai arwain at breifateiddio rheolaeth y ganolfan,” meddai Siân Gwenllian.
“Byddai hyn yn erbyn buddiannau defnyddwyr lleol, y gweithlu lleol a’r defnydd o’r iaith Gymraeg.
“Mae angen i Chwaraeon Cymru gydweithio â’r gymuned leol i ddod o hyd i atebion ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol.
“Mae’r ganolfan yn ased anhygoel yn lleol ac yn genedlaethol, ond mae’r gogledd-orllewin yn cael ei gwthio i’r cyrion gan feddylfryd Caerdydd-ganolog ac mae angen i’r Gweinidog sicrhau bod y broses yn cael ei hatal cyn bod penderfyniad andwyol a hynod ddadleuol yn dwyn ffrwyth.”